Ffrae cinio ysgol: Llawer o'r plant 'yn gallu talu'

  • Cyhoeddwyd
Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Neil Foden yw pennaeth strategol dros dro Ysgol Dyffryn Nantlle ers Mehefin.

Mae llawer o'r disgyblion sydd wedi codi dyledion cinio o fwy na £1,800 mewn ysgol yng Ngwynedd yn gallu eu talu ond heb wneud, yn ôl y pennaeth.

Dywedodd Neil Foden ei fod wedi siarad gyda rhieni sydd "yn cyfaddef yn blaen eu bod yn anghofio talu arian mewn i gyfrifon eu plant".

Daw hyn wrth i blant yng Nghanada gyfrannu at ymdrechion i godi arian i ddileu dyledion y disgyblion.

Ond dywedodd Mr Foden ei fod yn bosib bod rhoddwyr wedi "camddeall" y sefyllfa.

Dywedodd pennaeth strategol dros dro'r ysgol y dylai unrhyw un sydd yn dymuno gwneud rhodd roi arian i fanc bwyd yn lle.

Dywedodd llythyr wrth rieni na fyddai plant yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes yn cael cinio ysgol os oedd ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyled.

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am y pryder achosodd y llythyr, ac mae llywodraethwyr wedi cyhoeddi eu bod am adolygu'r system dalu.

Dywedodd Mr Foden, prifathro'r ysgol yng Ngwynedd: "Yn anffodus, rydym ni'n credu fod llawer o'r rheiny sydd mewn dyled yn gallu talu ond heb wneud hynny."

'Pobl caredig wedi camddeall'

Mae tri o frodyr yng Nghanada gyda chysylltiad teuluol i Gymru - Merlin, Kit a Noah - wedi bod yn codi arian i dalu dyledion y disgyblion.

Ar y cyd ag ymdrech cyn-ddisgybl Ysgol Dyffryn Nantlle, Tamara Owen, i godi arian, mae £600 wedi cael ei gasglu.

"Ni fydd gan teuluoedd ddigon o arian i dalu am y prydau, felly o'n i'n meddwl os oeddwn ni'n codi arian... byddai modd i bobl gael yr arian a bod yn hapus," meddai Merlin, 11.

Ffynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Foden fod llawer o bobl wedi cysylltu â'r ysgol yn dilyn sylw i'r llythyr yn y wasg.

Dywedodd Tamara Owen, 21, iddi ddechrau codi arian ar gyfer y disgyblion am iddi deimlo "nad oedd llawer yn cael ei wneud" i ddileu dyledion prydau bwyd disgyblion.

Mae'r ymateb i'w hymdrechion wedi bod yn "aruthrol" gyda phobl yn dangos "cymaint o garedigrwydd," meddai Ms Owen.

Ond dywedodd prifathro'r ysgol ei fod yn bosib fod "pobl caredig wedi camddeall sut mae'r ysgol wedi cyrraedd y sefyllfa hyn".

'Talu dyledion y rhai sy'n gallu eu talu'

Dywedodd Mr Foden fod llawer o bobl wedi cysylltu â'r ysgol yn dilyn sylw i'r llythyr yn y wasg, gyda "rhai'n greulon a nifer bach yn fygythiol," ynghyd â llawer sydd wedi cynnig rhoddion.

"Mae disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn derbyn arian i'w cyfrifon bob dydd ac felly does dim rheswm i nhw fynd i ddyledion," meddai.

"Felly, fe ddylai'r disgyblion mwyaf difreintiedig dal gael eu bwydo bob dydd.

"I'r rheiny nad sy'n gymwys am brydau am ddim o drwch blewyn ond sydd yn wynebu problemau, siŵr o fod rhai byr-dymor, fe allen nhw gael talebau gan yr ysgol i ddefnyddio'r banc bwyd leol, neu drafod cynllun i leihau'r dyledion gyda'r ysgol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn derbyn arian i'w cyfrifon bob dydd," meddai Mr Foden.

Ychwanegodd ei fod yn bosib na fyddai'r rhoddion "yn cyrraedd y disgyblion mwyaf difreintiedig" ac yn hytrach yn "talu dyledion rhai sydd yn gallu eu talu".

Dywedodd Mr Foden y byddai'r ysgol yn trafod sut i ddatrys y broblem ac ymateb i rhoddion gyda'r awdurdod addysg.

Ond dywedodd y dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud rhodd ystyried rhoi arian i fanc bwyd sydd yn gwasanaethu ardal Dyffryn Nantlle.

Dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod yn "ymwybodol o'r rhoddion caredig sydd wedi cael eu cynnig" ac y byddai'n trafod "y ffordd orau i ymateb" gyda'r ysgol.

Pynciau cysylltiedig