Bocswraig o Gaernarfon yn 'lwcus i fod yn fyw'
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bod yn ddifrifol wael mae'r focswraig Cara Owen yn ôl yn y gampfa yng Nghaernarfon yn ymarfer unwaith eto.
Newidiodd bywyd Cara yn llwyr ym mis Hydref 2019.
Roedd hi newydd ennill gornest focsio yng Nghaernarfon pan aeth hi'n sâl iawn a bu'n rhaid iddi gael triniaeth ar gyfer gwaedlif ar yr ymennydd mewn ysbyty arbenigol yn Stoke.
"Nes i golapsio ac ar ôl hynna dwi'n cofio dim byd. Ddaru nhw rushio fi i Stoke i operatio yn fanna," meddai.
"Naethon nhw dynnu'r skull ar yr ochr dde i stopio'r gwaedlif a wedyn o'n i'n gorfod mynd tri mis heb y skull.
"Wedyn jyst achos y chwydd es i nôl mewn tri mis i gael operation arall i ffitio titanium plate yn lle'r skull felly."
Dywed Cara nad oes sicrwydd mai'r bocsio a achosodd y gwaedlif.
"Na'th y doctoriaid yn Stoke ddweud bod nhw'n methu dweud be 'nath achosi fo ond dwi'n meddwl bod 'na rywbeth yna cynt," ychwanegodd Cara.
"Oedd 'na signs cynt - cur pen, llygaid bloodshot - ro'n i'n collapsio bob hyn a hyn a ballu ond dwi'n meddwl ella'r ffeit wnaeth wneud y ffeinal straw."
Chris Pritchard, ewythr Cara, wnaeth drefnu'r ornest bocsio, a fo sydd wedi bod yn ei hyfforddi.
Dywedodd bod yr holl beth yn sioc enfawr, a'i fod o'n amau ai bocsio fu'n gyfrifol am ei salwch.
"'Dan ni'n rili meddwl bod 'na underlying health condition ganddi… fel un ffordd, silver lining," meddai.
"Dwi'n falch na'th o ddigwydd y noson honno o flaen y paramedics, o flaen y medical personnel oedd yna.
"'Sa fo wedi medru bod lot gwaeth, 'sa wedi gallu digwydd adra neu allan efo'i ffrindiau."
Mae Cara wrth ei bodd yn hyfforddi yn y gampfa unwaith eto ac mae'n dweud bod hynny wedi bod yn help mawr iddi ddod yn ffit ac yn iach.
Ond mae arbenigwyr wedi ei chynghori i beidio ymladd byth eto ac mae hynny yn siom fawr iddi.
"Mae hwnna yn ypsetio fi braidd - dwi'n 'neud o ers dwi'n dair oed ond dwi'n lwcus i fod yn fyw a dwi'n hapus bo' fi dal i gael trainio - dim efo pobl eraill ond trainio ar y punching bags a ballu a trainio pobl eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019