Dim pŵer am ddyddiau: 'Dyw ymddiheuriad ddim yn ddigon da'

  • Cyhoeddwyd
SSEN engineersFfynhonnell y llun, SSEN
Disgrifiad o’r llun,

Mae peiriannwyr wedi bod yn gweithio dros Gymru a gweddill y DU i drwsio cyflenwadau trydan ar ôl y storm

Mae teulu o Ddyffryn Clwyd yn dweud eu bod wedi cael eu siomi am y diffyg cymorth oedd ar gael iddyn nhw ar ôl bod am ddyddiau heb drydan yn dilyn Storm Arwen.

Mae gan Gwyn Williams o Landyrnog gyflwr sy'n golygu fod angen peiriant arno i'w gadw'n fyw os oes trafferth gyda'i anadl tra ei fod yn cysgu.

Oherwydd hyn mae'r teulu wedi cofrestru fel cwsmeriaid o flaenoriaeth gyda chwmni Scottish Power.

Fel rheol mi fyddai hyn yn golygu eu bod yn derbyn galwadau ffôn yn cynnig cefnogaeth, ac mi fyddai'r cyflenwad trydan yn cael ei adfer ar frys.

Ond yn ôl gwraig Gwyn, Nia, nid dyna'r achos y tro hwn.

Mae Scottish Power wedi ymddiheuro i'r teulu, gan ddweud mai'r difrod gan Storm Arwen yw'r gwaethaf maen nhw wedi'i weld ers 15 mlynedd.

'Dim yw dim'

Roedd y teulu wedi bod heb drydan ers ychydig wedi 22:00 nos Wener, cyn iddo gael ei adfer am tua 18:00 nos Lun.

"Fuodd hi fel 'ny trwy dydd Sadwrn, a chlywon ni ddim byd oddi wrth Scottish Power - fuon ni'n trio ffonio nhw, ond dim byd," meddai Mrs Williams ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"Dydd Sul 'naeth menyw fach neis ffonio ac ymddiheuro, a nes i egluro 'dyw ymddiheuriad ddim yn ddigon da' achos bod angen y trydan arnom ni i Gwyn fedru cysgu'r nos."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgynnodd y goeden hon ar ffordd rhwng Gellifor a Hendrerwydd yn Sir Ddinbych yn ystod y storm

Dywedodd Ms Williams eu bod wedi cael addewid y byddai rheolwr yn cysylltu gyda nhw ond fod y cyswllt ffôn wedi torri ar ôl iddi fod yn disgwyl am 45 munud.

"Ni wedi cofrestru yn gofyn iddyn nhw ein ffonio ni 'nôl, ond dim yw dim."

"Dyw hyn ddim yn dderbyniol yn yr 21ain ganrif. Dy'n ni ddim yn byw yng nghanol diffeithwch neu ar dop mynydd - ry'n ni'n byw llai na chwarter awr o'r pentre'."

'Siop siafins llwyr'

Ychwanegodd Mrs Williams ei bod yn siomedig nad oes unrhyw un o'r cwmni wedi dod i'r ardal er mwyn sicrhau fod y bobl sydd heb bŵer - yn enwedig y rhai hŷn neu fregus - yn gallu ymdopi.

"Mae'n shambles, yn siop siafins llwyr wir," meddai.

Dywedodd hefyd ei bod wedi'i chythruddo ar ôl cael gwybod fod cymydog wedi cael "ei rhoi lan mewn gwesty", ond na chafon nhw yr un cynnig.

Ffynhonnell y llun, Meinir Llwyd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd to ei chwythu oddi ar sied yn Waengoleugoed ger Llanelwy, gan achosi difrod i ddau gar

A hwythau'n dal heb drydan aeth y ddau i aros mewn gwesty nos Sul, o'u pocedi eu hunain.

"Gorfon ni fynd i westy achos falle bydde Gwyn ddim gyda ni erbyn heddi os na fydde fe wedi cael trydan," meddai Mrs Williams.

Ychwanegodd ei bod yn siomedig hefyd gyda Chyngor Sir Ddinbych am fethu â darparu cymorth i'r teulu, ond ei bod yn llawn canmoliaeth i Gyngor Cymuned Llandyrnog am eu help nhw.

Dywedodd cwmni Scottish Power Energy Networks fod y difrod gan Storm Arwen y gwaethaf maen nhw wedi'i weld mewn dros 15 mlynedd.

Maen nhw'n dweud eu bod yn deall y pwysau sydd ar gwsmeriaid ac yn gwerthfawrogi amynedd pobl.

Ychwanegodd y cwmni fod rhannau mawr iawn o'r rhwydwaith wedi ei effeithio, a'u bod yn ceisio dychwelyd cyflenwad pawb cyn gynted â phosib.

Maen nhw hefyd wedi ymddiheuro i Mrs Williams a'r teulu am beidio cysylltu gyda nhw yn gynt.

'Ymateb i unrhyw gais am gymorth'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych fod nifer fawr o bobl wedi cysylltu gyda nhw i adael iddyn nhw wybod am bobl fregus yn dilyn y storm, ac y bu grŵp ymateb dyngarol y cyngor yn adolygu'r sefyllfa.

Ychwanegodd fod timau gofal cymdeithasol mewn cysylltiad â phreswylwyr oedd angen y gefnogaeth fwyaf, a bod gan y cwmnïau trydan restr o'r bobl sydd fwyaf mewn angen hefyd.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi ymateb i unrhyw gais am gymorth drwy gysylltiad uniongyrchol neu drwy'r cwmni trydan, er mwyn cynnig llety arall i unrhyw un oedd ei angen.

Pynciau cysylltiedig