Wyth ymosodiad y dydd ar weithwyr gwasanaethau brys
- Cyhoeddwyd
Roedd yna gynnydd o bron i 10% mewn ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys yn ystod chwe mis cyntaf eleni, o gymharu â'r un adeg y llynedd.
Mae'r gwasanaethau brys yn galw ar bobl i gefnogi ymgyrch 'Gyda ni nid yn ein herbyn ni' yn yr wythnosau cyn cyfnod y Nadolig.
Rhwng Ionawr a Mehefin eleni roedd yna 1,360 o ymosodiadau ar weithwyr brys, sy'n gyfystyr ag wyth ymosodiad y dydd ar gyfartaledd.
Roedd 21 o'r ymosodiadau'n cynnwys rhyw fath o arf.
Mae'r ffigyrau'n amlygu cynnydd o 35% (o 428 i 576) yn nifer yr ymosodiadau ar staff meddygol yn y flwyddyn hyd at Fehefin o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.
Roedd y gweithwyr yn cynnwys nyrsys, meddygon, parafeddygon, staff ateb galwadau a gweithwyr canolfannau prawf Covid-19.
Ond yn ôl ystadegwyr gwasanaethau brys Cymru, gwelliannau o ran nodi dioddefwyr ymosodiadau sydd i gyfri' am rywfaint o'r cynnydd.
Fe ddigwyddodd y nifer fwyaf o ymosodiadau ym mis Mai wrth i'r sector lletygarwch ailagor yn dilyn yr ail gyfnod clo.
Mae ymosodiadau yn amrywio o drais corfforol i ymosodiadau geiriol ac mae rhai gweithwyr wedi dioddef niwed corfforol difrifol.
Fe ddigwyddodd bron i hanner yr ymosodiadau yn y de ddwyrain, yn bennaf yn ardaloedd Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Pobl rhwng 26 a 35 oed oedd yn bennaf gyfrifol ac roedd alcohol yn ffactor yn un o bob tri o'r achosion.
Roedd dau o bob tri o'r achosion yn ymosodiadau ar blismyn.
"Mae ymosodiadau ar blismyn yn parhau i gynyddu ac mae hyn yn gwbl annerbyniol," medd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys.
"Ym mis Medi cafodd dyn ddedfryd o garchar am ymosod yn dreisgar ar ddau blismon oedd wedi mynd i'w helpu.
"Bydd yn cymryd amser i'r swyddogion ddod dros effaith seicolegol yr ymosodiad."
'Y peth pwysica' ydi bo' ni' saff yn ein gwaith'
"Be' nathon ni oedd yn haeddu'r ymateb yna? Ydi hyn yn mynd i ddigwydd eto? Ydw i'n mynd i fod yn saff?"
Dyna rai o'r cwestiynau ar feddwl y parafeddyg Darren Lloyd am fisoedd wedi i ddyn ifanc yr oedd ef a'i griw newydd ei drin wedi gorddos ym Mangor, ddod at ei hun a thaflu dyrnau ato.
Er i'r heddlu ddod i'w arestio, roedd o'n "dal yn glaf a nathon ni dal neud siŵr bod o'n iawn" nes ei drosglwyddiad i'r ysbyty.
Roedd yna gyfnod o feio'i hun am "roi fi'n hun a'r criw yn y sefyllfa yna" cyn dechrau "gorfeddwl petha'" a chymryd mwy o sylw o'r hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas wrth ymateb i alwad frys.
Mae'n dweud bod gweithwyr brys, "yn anffodus", yn dod i arfer ag ymosodiadau geiriol cyson, a bod cymorth a chefnogaeth i staff yn syth wedi ymosodiadau corfforol.
"Yn anffodus, mae ymgyrch fel hyn yn dangos bod petha' fel hyn yn dal i ddigwydd," meddai, "ond be sy'n fwy trist ydi'r cynnydd yn hyn.
"Pan ma' rwbath fel hyn yn digwydd, mae'n dychryn rhywun. Mae'n sioc. Dwi'm 'di dod i 'ngwaith i hynna ddigwydd... Y peth pwysica' ydi bo' ni' saff yn ein gwaith."
Cafodd y sawl a ymosododd arno ddedfryd o chwe mis o garchar maes o law.
"Mae'n anodd gw'bod be 'di'r rhesyma' pam ma' rhywun yn neu o," meddai. "Wrth gwrs, does 'na ddim rheswm really i ymateb fel'na."
'Rhai'n colli misoedd o waith'
Mae Dylan Parry yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans ac yn delio gydag achosion o ymddygiad treisgar yn erbyn staff.
"Mae o'n effeithio ar staff yn wahanol ond mae o'n achosi i rai gael amser o'u gwaith yn sâl ac wrth gwrs mae hynny'n cynyddu'r pwysau ar y staff sydd ar ôl," meddai.
"Mae o wedi digwydd fod staff yn colli misoedd weithiau, sydd ddim yn dda iddyn nhw. Mae ganddyn nhw hawl i ddod i'r gwaith heb gael pethau fel hyn yn digwydd iddyn nhw."
Ar drothwy'r Nadolig mae gweithwyr gwasanaethau brys yn galw ar y cyhoedd i'w trin nhw gyda pharch.
"Mae staff yn cael llond bol achos mae'r job yn ddigon anodd fel mae," meddai Dylan Parry.
"'Dan ni mond yna i helpu pobol, felly 'san ni'n licio i chi weithio hefo ni ac nid yn ein herbyn ni a just helpu ni pan 'dan ni'n helpu pobol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020