'Gwir angen strategaeth ganser i Gymru' medd elusennau

  • Cyhoeddwyd
SganiwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed elusennau canser y dylai pobl â symptomau canser ymweld â'u meddyg teulu

Mae'n anodd gwella gwasanaethau canser Cymru heb strategaeth genedlaethol gynhwysfawr ar gyfer gwneud hynny, mae elusennau canser blaenllaw wedi rhybuddio.

Dywedodd Andy Glyde o Cancer Research UK mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori y dylai pob gwlad gael cynllun o'r fath, meddai wrth aelodau'r Senedd.

Dywed gweinidogion Cymru eu bod yn ceisio "dull integredig, mwy effeithiol, wedi'i seilio ar ansawdd".

Daeth rhybudd Mr Glyde wrth iddo roi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Senedd ddydd Iau ar ran 20 o elusennau canser sy'n rhan o gorff ymbarél Cynghrair Canser Cymru.

"Mae'n anodd iawn gweld beth yw'r llwybr ar gyfer arloesi gwella mewn gwasanaethau canser yn y tymor hir ac ar lefel genedlaethol," meddai.

"Y peth sydd wir ar goll ar hyn o bryd yw strategaeth ganser."

'Datganiad ansawdd'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi "datganiad ansawdd ar gyfer canser" yn gynharach eleni, ond barnodd Mr Glyde mai dim ond gosod "safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser oedd hyn, heb feddwl mewn gwirionedd am sut y dylai uchelgais edrych a sut rydyn ni'n trawsnewid y ffordd rydyn ni'n gwneud pethau".

Roedd Gogledd Iwerddon yn gweithio ar gynllun nawr, meddai.

"Unwaith y bydd Gogledd Iwerddon yn lansio eu rhai nhw yn fuan, Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser.

"Ac mae'n rhaid i ni gofio bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod gan bob gwlad strategaeth ganser.

"A hyd nes y cawn hynny mae'n anodd iawn gweld beth yw'r llwybr ar gyfer gwella arloesedd mewn gwasanaethau canser yn y tymor hir ac ar lefel genedlaethol."

'Cynhwysfawr'

Ymatebodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi amlinellu dull cynhwysfawr o fynd ati i wella canlyniadau canser yn ein datganiad ansawdd ar gyfer canser.

"Mae hyn yn cynnwys ymrwymiadau pwysig i adfer o effaith y pandemig, cyflawni'r amser aros ar gyfer y llwybr lle'r amheuir canser, a chanfod canser yn gynharach.

"Bydd y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau canser mewn ymateb i'r ymrwymiadau hyn."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George: "Roedd datganoli i fod i arwain at Gymru yn cael cyfleoedd i symud yn gyflymach na rhannau eraill o'r DU a chael canlyniadau gwell, heb syrthio ar ei hôl hi."

Cyhuddodd ef weinidogion o roi pobl "mewn perygl gyda'r diffyg strategaeth iawn i ymladd canser".

'Mwy integredig'

Wrth siarad mewn dadl yn y Senedd ar ddiagnosis a thriniaeth canser ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod gweinidogion yn ceisio cyflawni "dull mwy integredig, mwy effeithiol, wedi'i seilio ar ansawdd ar gyfer nifer o wasanaethau clinigol".

Roedd y dull hwn yn "fwy addas i'r fframwaith cynllunio ar gyfer cyrff GIG lleol ac mae'n llywio'r trefniadau atebolrwydd a ddefnyddiwn gyda phob corff GIG lleol yn well", meddai.

"Dyma'r dull yr ydym wedi penderfynu fydd yn gweithio orau i Gymru ac i'n system iechyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol