'Angen atebolrwydd gan aelodau dynodedig Plaid Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Daeth y Cytundeb Cydweithio i rym ddydd MercherFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y Cytundeb Cydweithio i rym ddydd Mercher

Dylai gwleidyddion Plaid Cymru fod yn atebol yn siambr y Senedd fel gweinidogion os ydyn nhw'n ymwneud â phenderfyniadau Llywodraeth Cymru, meddai AS Llafur.

Mae cwestiynau'n codi ynghylch sut y bydd y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn gweithio'n ymarferol.

Bydd Plaid Cymru yn penodi aelodau dynodedig, fel y'u gelwir, i weithio gyda'r llywodraeth ar bolisïau yn eu cytundeb cydweithio.

Dywedodd AS Llafur Caerffili Hefin David y dylai'r bobl hynny fod yn atebol i'r Senedd.

O dan delerau'r cytundeb tair blynedd nid yw Plaid Cymru yn cael unrhyw swyddi gweinidogol.

Ond bydd aelodau dynodedig yn eistedd ar bwyllgorau gyda gweinidogion a gallant gael mynediad at gymorth y gwasanaeth sifil.

Bydd dau gynghorydd arbennig yn gweithio yn y llywodraeth ar gyflawni'r fargen.

Disgrifiad o’r llun,

"Y mater allweddol yw bod aelodau dynodedig yn atebol" medd Hefin David

Cyhoeddodd y llywodraeth ddogfen ar ei gwefan yn amlinellu sut y byddai'r ddwy ochr yn gweithio gyda'i gilydd.

Dywed y gall gwleidyddion Plaid Cymru gyfrannu at ddatganiadau i'r wasg gan y llywodraeth a bydd sesiynau briffio'r cyfryngau ar y cyd yn rheolaidd gyda Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Mae Mr David eisiau i Lywydd y Senedd sicrhau bod penodiadau Plaid Cymru hefyd yn atebol yn y senedd.

"Y mater allweddol yw bod aelodau dynodedig yn atebol - dyna'r peth pwysicaf," meddai.

"Rwy'n credu na allwch gael gweinidogion y llywodraeth yn ateb cwestiynau yn y siambr ac nid aelodau Plaid Cymru os ydyn nhw'n ymwneud â phenderfyniadau'r llywodraeth.

"Rwyf am graffu arnynt. Rwyf am ofyn y cwestiynau iddynt ac mae angen i'r mecanweithiau fod ar waith ar gyfer hynny."

Statws gwrthblaid lawn?

Dywedodd Mr David ei fod yn "cefnogi'n llwyr" y cytundeb, sy'n cynnwys ymrwymiadau i ddarparu prydau bwyd ysgol am ddim i bob disgybl oed cynradd a 12.5 awr o ofal plant yr wythnos ar gyfer plant dwy oed.

"Ond dylai mecanwaith sut mae'n gweithio fod yn hawl holl aelodau'r Senedd," ychwanegodd.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y dylai Plaid Cymru golli ei statws fel gwrthblaid.

Dywedodd Mr David: "Rwy'n credu bron yn sicr bod statws gwrthblaid lawn Plaid Cymru yn ansicr oherwydd bod ganddyn nhw ddylanwad rhannol ar bolisi'r llywodraeth.

"Maen nhw'n sicr yn wahanol i'r grŵp Ceidwadol ac rwy'n credu bod angen i ni ddeall beth mae'r gwahaniaeth hwnnw'n ei olygu yn ymarferol."

'Well gen i pe bai'n glymblaid'

Dywedodd AS Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wrth siarad ar raglen Hawl i Holi BBC Radio Cymru, fod "heriau" a "chwestiynau heb eu hateb".

"Rwy'n credu bod cydweithio yn beth da. Yn bersonol, byddai'n well gen i pe bai'n glymblaid."

Gwrthododd y syniad ei fod yn chwilio am swyddi cabinet ar gyfer ASau Plaid Cymru.

"Dwi ddim yn credu bod gwleidyddion yn ei wneud am resymau mor bersonol," meddai.

"Ond yn sicr mae yna heriau wrth wneud i unrhyw beth newydd weithio, a byddwn yn gwneud iddo weithio."

Ychwanegodd fod y cytundeb yn "gyffrous", ond "nid yw hynny'n golygu na fydd tensiynau. Efallai na fydd yn hawdd trwy'r amser, ond mae gennym ni gytundeb ac rydyn ni'n awyddus i'w weithredu."