'Tebygol' fod Omicron yn lledu'n gyflymach
- Cyhoeddwyd
Mae'n "debygol" fod yr amrywiolyn newydd o Covid-19 yn lledaenu'n gyflymach nag amrywiolion eraill, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ond mae dal angen casglu mwy o dystiolaeth ar amrywiolyn Omicron, meddai eu dirprwy gyfarwyddwr meddygol dros dro.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Dr Eleri Davies nad oedden nhw'n sicr eto a yw Omicron yn achosi salwch mwy difrifol, na pha mor effeithiol mae brechlynnau Covid-19 yn ei erbyn.
Dywedodd Dr Davies na ddylai pobl gwrdd ag eraill os ydyn nhw'n teimlo'n sâl.
Cafodd yr achos gyntaf o Omicron yng Nghymru ei ganfod ddydd Gwener, ac roedd yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol.
Ond dywedodd Dr Davies fod yna dystiolaeth o rannau eraill o'r DU fod yr amrywiolyn bellach yn lledu yn y gymuned heb gysylltiad â theithio dramor.
'Cwestiynau'n dal i fod'
Mae cwestiynau'n dal i fod am Omicron, dywedodd Dr Davies, ond mae'r dystiolaeth gynnar yn "galonogol" - gan gynnwys ar frechlynnau.
"Ni yn credu bod y brechlynnau yn effeithiol yn sicr i leihau difrifoldeb yr haint," meddai hi, ac felly eu neges o hyd yw cael eich brechu.
Ond bydd angen casglu tystiolaeth bellach, meddai.
Y peth "synhwyrol" yw peidio â chwrdd ag eraill os ydych chi'n teimlo'n sâl, meddai Dr Davies.
Pwysleisiodd bod cyfraddau Covid "yn dal i fod yn uchel" yng Nghymru, a bod y feirws yn lledaenu trwy gysylltiad agos a chymdeithasu.
"Fi'n gwybod bod ni moyn cwrdd â theulu a ffrindiau oherwydd bod ni falle heb weld nhw ers sbel, ond os y'ch chi ddim yn teimlo'n dda, gwnewch yn siŵr bo chi'n cael prawf a bod chi yn peidio cymdeithasu os chi'n sâl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021