Iawndal i glaf am lawdriniaeth ddiangen i dynnu colon
- Cyhoeddwyd
Bydd claf sydd â Syndrom Asperger yn derbyn iawndal o £10,000 wedi i ombwdsmon ddod i gasgliad ei fod wedi cael llawdriniaeth ddiangen.
Lansiodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwiliad ar ôl derbyn cwyn gan glaf a elwir yn Mr D am y gofal a'r driniaeth a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Yn ei adroddiad dywed yr Ombwdsmon, Nick Bennett, fod Mr D wedi cael diagnosis anghywir ac na ddylai fod wedi cael llawdriniaeth i dynnu rhan o ochr dde ei golon.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi derbyn casgliadau'r adroddiad.
Diffyg gwybodaeth glir
Roedd Mr D wedi cwyno nad oedd wedi cael diagnosis clir, a bod clinigwyr yn araf yn canfod iddo waedu ar ôl y llawdriniaeth - o ganlyniad bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth frys ychwanegol.
Dywedodd Mr D hefyd nad oedd gwybodaeth am ei driniaeth a'i ofal yn cael ei chyfleu'n glir iddo er gwaethaf y ffaith bod ganddo Syndrom Asperger.
Roedd hefyd yn anhapus am rai agweddau o'i ofal ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty.
Canfu'r Ombwdsmon fod Mr D wedi cael llawdriniaeth yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod ganddo Glefyd Crohn, ond fe wnaeth canfyddiadau llawfeddygol diweddarach awgrymu bod ganddo lid cronig a chymhleth ar y pendics.
Noda'r adroddiad na fyddai'r naill gyflwr neu'r llall yn golygu bod angen i Mr D gael y llawdriniaeth fawr a gafodd.
Daeth yr Ombwdsmon i'r casgliad hefyd nad oedd cofnod cyflawn o sut gafodd cyflwr Mr D ei fonitro wedi ei lawdriniaeth a dywed y gellid fod wedi canfod yn gynt ei fod yn gwaedu ar ôl hynny.
Roedd clinigwyr, medd yr adroddiad, yn ymwybodol bod gan Mr D Syndrom Asperger ond nid oeddent wedi llwyddo i gyfleu'n glir iddo y wybodaeth am ei ddiagnosis a'i driniaeth. Ni chafodd chwaith weld clinigydd iechyd meddwl er ei fod wedi gofyn am hynny.
Ond doedd yr Ombwdsmon ddim yn credu bod sail i gŵyn Mr D am y gofal a gafodd ar ôl ei ryddhau.
Trawma y gellid bod wedi'i osgoi
Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Mr Bennett: "Dylai'r meddygon a oedd yn gyfrifol am ofal Mr D fod wedi mabwysiadu dull o 'gadw golwg a phwyllo' oherwydd mae'n debyg y byddai ei gyflwr wedi setlo heb driniaeth lawfeddygol.
"Yn hytrach, roedd Mr D, a oedd yn unigolyn bregus, wedi wynebu trawma y gellid bod wedi'i osgoi yn sgil llawdriniaeth ddiangen a chymhlethdodau ar ôl y driniaeth - trawma a arweiniodd at orfod ceisio cymorth iechyd meddwl."
Fe wnaeth yr Ombwdsmon argymell:
Bod Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cynnig ymddiheuriad manwl a thaliad iawndal o £10,000 i Mr D;
Bod y meddygon a'r nyrsys a gyfrannodd at ofal Mr D yn cael hyfforddiant perthnasol ar reoli Clefyd Crohn a llid cronig y pendics yn ogystal â darparu a rheoli gofal i gleifion gyda Syndrom Asperger;
Dylai'r tîm nyrsio ystyried pwysigrwydd cynnal a chofnodi arsylwadau ar ôl y llawdriniaeth a pharatoi cynlluniau gofal cywir a pherthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau adroddiad yr Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu ei argymhellion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019