Cynnig gwasanaethau yn Gymraeg yn 'gwneud bywyd yn haws'

  • Cyhoeddwyd
Lois Russell-FoneFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg/YouTube
Disgrifiad o’r llun,

I Lois Russell-Fone, mae'n "bleser" cael defnyddio'r Gymraeg yn ei gwaith

Mae cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud adegau anoddaf bywyd yn haws, yn ôl cofrestrydd o Wrecsam.

Dywedodd Lois Russell-Fone fod pobl "yn andros o falch" o fedru cofrestru marwolaethau yn y Gymraeg, a bod galw am y gwasanaeth yn cynyddu.

"Mi fasa nhw wedi gweld diffyg yn gwneud o yn Saesneg, a ddim yn dallt yn iawn be' oedd yn digwydd."

Yn siarad gyda rhaglen Dros Frecwast ar Ddiwrnod Hawliau'r Iaith Gymraeg, dywedodd Ms Russell-Fone ei fod yn "bleser" iddi ddefnyddio'r Gymraeg wrth gynorthwyo teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.

Fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts alw gwaith Ms Russell-Fone yn "ysbrydoledig".

"Dwi'n cofio pan o'n i'n mynd i gofrestru fy mhriodas, genedigaeth fy mhlant, a marwolaeth aelod teulu, prin iawn oedd y cyfleoedd i wneud hynny yn Gymraeg," meddai'r comisiynydd.

Mae Diwrnod Hawliau'r Iaith Gymraeg yn gyfle i gyrff a sefydliadau cyhoeddus hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd.

'Anghofio eu bod yn gallu gofyn'

Mae Ms Russell-Fone wedi bod yn gweithio fel cofrestrydd yn ardal Wrecsam ers mis Ebrill 2019.

Mae hi'n cofrestru genedigaethau, priodasau, a marwolaethau.

Esboniodd hi nad oedd pobl bob tro'n ymwybodol fod yr hawl ganddynt i ofyn iddi ddarparu'r gwasanaethau hyn yn Gymraeg.

"Dwi'n meddwl gan bod ni ar y ffin bod pobl yn tueddu anghofio weithiau bod nhw yn gallu gofyn, a bod fi yma a dwi'n hapus i wneud," meddai.

Ond dywedodd y cofrestrydd bod mwy a mwy o bobl yn dechrau gofyn am hyn, a'u bod yn "andros o falch" o gael eu gwasanaethu yn eu mamiaith.

"Mae'n bleser i fi - dwi'n ddigon ffodus i gael fy magu yn Gymraeg a dwi isio gallu ei defnyddio yn fy ngwaith hefyd."

'Hollbwysig'

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg wrth Radio Cymru mai pwrpas Diwrnod Hawliau'r Iaith Gymraeg yw i wneud y cyhoedd yn ymwybodol o'u hawl i ddefnyddio'r iaith.

Mae yna bellach 124 o gyrff cyhoeddus lle mae gan bobl yr hawl hyn, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y comisiynydd bod llawer o weithwyr y sector cyhoeddus yn medru ar y Gymraeg ond wedi colli hyder i'w defnyddio

Esboniodd y comisiynydd bod yna rai sefyllfaoedd lle byddai cael gwasanaeth trwy'r Gymraeg yn "hollbwysig," megis gofal iechyd i berson gyda dementia sydd wedi colli eu Saesneg.

Ond dywedodd bod hyn hefyd yn ffordd o annog pobl sydd yn dysgu'r Gymraeg neu sydd yn ddi-hyder i'w defnyddio.

"Mae 'na gannoedd os nad miloedd o weithwyr yn y sector gyhoeddus wrach sydd wedi derbyn addysg Gymraeg ond sydd wedi colli hyder i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Be' da ni'n trio gwneud yw eu darbwyllo nhw bod angen i nhw dechrau ailddefnyddio'r Gymraeg, ac ar ôl hynny bydd y rhuglder yna yn dod yn ôl."