Ysgol wedi gwahanu plant ag eithriad rhag gwisgo masg
- Cyhoeddwyd
Cafodd plant sydd wedi eu heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb eu rhoi mewn "swigen" ar wahân i'w cyd-ddisgyblion mewn ysgol yn Wrecsam, yn ôl honiadau.
Mae rhieni dau ddisgybl o Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn dweud bod eu plant wedi cael eu gosod mewn grŵp o ddisgyblion nad oedd yn gwisgo masg a doedd ddim yn cael cymysgu â'r rheiny oedd yn gwneud hynny.
Ond maen nhw'n dweud bod eu bechgyn wedi eu heithrio rhag gwisgo masg - ac y dylen nhw felly gael cymysgu â phlant eraill.
Wedi newidiadau i ganllawiau yn sgil ymddangosiad amrywiolyn Omicron, mae disgwyl i ddisgyblion uwchradd wisgo gorchudd wyneb dan do bellach, ond mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu eithriadau.
Yn ôl yr ysgol, maen nhw wedi "gosod mesurau diogelwch priodol i sicrhau bod ein disgyblion a'n staff i gyd yn parhau yn ddiogel".
Ychwanegodd llefarydd bod angen iddyn nhw fod yn "ymwybodol" o anghenion meddygol y plant sy'n mynychu'r ysgol, ac maen nhw'n gwahodd rhieni plant sydd â rheswm meddygol dros beidio gwisgo mwgwd i gysylltu â nhw.
'Swigen ar wahân'
Newidiodd canllawiau ar fygydau mewn ysgolion ddiwedd mis Tachwedd, ac yn dilyn hynny cafodd plant nad oedd yn gwisgo masg yn yr ysgol 700-disgybl yn Wrecsam eu gosod mewn swigen ar wahân.
Ond mae rhieni dau o'r plant oedd yn y swigen yn dweud eu bod wedi eu heithrio rhag gwisgo mwgwd.
Yn ôl Jason Owen, mae gan ei fab gyflyrau gan gynnwys awtistiaeth ac ADHD, ac roedd yn cael mynychu'r ysgol a chymysgu gyda phlant eraill heb fasg pan oedd mygydau'n orfodol yn gynharach yn y pandemig.
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd wybod y byddai'n rhaid iddo wisgo un.
"Daeth y mab adref a dweud 'dwi'n gorfod gwisgo masg nawr', a dywedais i a'm gwraig 'na, does dim rhaid i ti, ti wedi cael dy eithrio'," meddai.
Wedi trafodaethau gyda'r ysgol, ceisiodd mab Mr Owen wisgo fisor ond doedd "ddim yn teimlo'n gyfforddus" yn ei wisgo. Yn ddiweddarach, cafodd ei roi mewn "swigen di-fwgwd" gyda phlant eraill.
"Maen nhw'n gwybod bod 'na blant yno gydag anableddau, maen nhw'n gwybod beth yw eu cyflyrau, maen nhw'n gwybod beth i'w wneud," meddai.
"Os oedd hi'n iawn iddo gael ei eithrio o'r blaen, yna dylai fod hynny'n iawn nawr."
Wedi i Mr Owen ddarparu llythyr meddyg, cafodd ei fab gymysgu gyda dysgwyr eraill tu allan i'r swigen, heb orfod gwisgo mwgwd.
Ond mae'r tad yn dweud na ddylai orfod cyflwyno tystiolaeth, gan gyfeirio at ganllawiau cyffredinol Llywodraeth Cymru sy'n dweud nad oes "angen i chi ofyn am gyngor na gofyn am lythyr gan weithiwr meddygol proffesiynol i nodi eich rheswm dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb."
Gofynnodd BBC Cymru i Ysgol Sant Joseff pam nad oedd plentyn oedd gynt yn cael ei eithrio ddim yn cael ei drin yr un ffordd ag o'r blaen wrth i'r ysgol ymateb i'r canllawiau diweddaraf.
Dywedodd llefarydd bod gan bob ysgol "ddyletswydd i ofalu am eu disgyblion" pan yn yr ysgol, a'u bod yn "dilyn polisïau Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni'n ymwybodol o holl ofynion meddygol plentyn fel ein bod ni'n gallu cyflwyno mesurau i'w cadw nhw a phawb yn yr ysgol yn ddiogel".
Maen nhw'n dweud eu bod wedi gofyn i rieni disgyblion sydd wedi eu heithrio am resymau meddygol i gysylltu gyda'r ysgol i drafod sefyllfa eu plant.
"Mae sawl un wedi gwneud hyn ac rydym wedi gallu cyflwyno mesurau priodol i'w diogelu nhw a disgyblion a staff eraill," meddai.
Ond mae rhiant arall yn dweud bod ei phlentyn hi yn "teimlo ofn" wedi iddo gael ei roi yn y swigen i'r rheiny nad oedd yn gwisgo mwgwd.
Plentyn 'yn teimlo'n euog'
Mae'r rhiant dienw yn honni nad yw ei mab yn gallu dioddef gwisgo masg am ei fod yn achosi iddo deimlo'n chwil a chael trafferth anadlu. Felly, yn y gymuned, roedd yn arddel cerdyn i ddweud ei fod wedi ei eithrio.
Pan newidiodd y canllawiau yr wythnos ddiwethaf, cafodd ei gwestiynu gan un o'i athrawon ynghylch pam nad oedd yn gwisgo mwgwd.
"Dywedodd fy mab ei fod o'n teimlo'u bod nhw'n pigo arno ac yn gwneud iddo deimlo'n euog," meddai.
Ni ymatebodd yr ysgol i'r honiad penodol hwn, ond dywedodd llefarydd y "dylai rhieni sydd â phryderon o hyd am yr hyn mae'r ysgol wedi ei wneud gysylltu â'r ysgol i drafod y pryderon hynny yn uniongyrchol er mwyn eu datrys.
"Os yw'r rheini'n parhau i deimlo'n anhapus wedi siarad gyda'r ysgol, dylent wneud cwyn swyddogol, a fydd yn cael ei ymchwilio'n drylwyr."
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae gwisgo mygydau wyneb yn orfodol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni gynnal asesiadau risg a gosod mesurau diogelwch priodol i sicrhau bod ein holl ddisgyblion a staff yn ddiogel tra yn yr ysgol."
Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio gwneud sylw yn dilyn cais gan BBC Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021