Ymddiheuro am 'fethiannau'r Eglwys' cyn ymddeoliad Esgob
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob newydd yr Eglwys yng Nghymru wedi ymddiheuro am fethiannau'r Eglwys wrth ymdrin â materion yn y cyfnod cyn ymddeoliad cyn-Esgob Mynwy, Richard Pain.
Ym mis Gorffennaf 2018 fe ildiodd yr Esgob Pain ei ddyletswyddau wedi i rai offeiriaid ac un o staff yr eglwys gwyno am ei ymddygiad - fe wnaeth e wedyn ymddeol.
Mae dau ymchwiliad gan yr Eglwys yng Nghymru wedi dod i gasgliad na ddylid cymryd unrhyw gam arall yn ei erbyn.
Ond mae un adolygiad wedi mynegi nifer o bryderon am y ffordd y cafodd yr ymchwiliadau eu cynnal.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Archesgob yr Eglwys yng Nghymru, Andrew John, a James Turner, cyn-gadeirydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru: "Ry'n am fynegi ein gofid ac yn edifarhau fod sefyllfa heriol y gallem fod wedi ei gwella wedi bod yn ddinistriol ac wedi peri gofid - sefyllfa a adawodd rhai pobl mewn cyflwr bregus.
"Dyw hyn ddim wedi adlewyrchu'n dda ar yr Eglwys yng Nghymru ac am hynny ry'n yn ymddiheuro o waelod calon i'r rhai a gafodd eu brifo gan ein methiannau."
Doedd yr adolygiad, a gafodd ei arwain gan gyn-Esgob Norwich Graham James, ddim wedi cael cais i benderfynu a oedd yr honiadau yn erbyn yr Esgob Pain yn wir ai peidio.
Cafodd 27 cyfweliad eu cynnal ond ddim un gyda'r Esgob Pain, a oedd meddent, "wedi penderfynu peidio â'u cyfarfod".
Mae'r adroddiad yn nodi bod un o staff yr eglwys a elwir yn "Alex" (nid yr enw iawn) wedi cyflwyno pryderon gerbron adran adnoddau dynol yr eglwys am ymddygiad yr Esgob Pain.
Mae hefyd yn nodi fod pryderon mwy cyffredinol wedi cael eu lleisio gan aelodau eglwysig hŷn yr esgobaeth - gan gynnwys Deon Mynwy - Lister Tonge, Archddiacon Mynwy ar y pryd - Ambrose Mason ac Archddiacon Casnewydd - Jonathan Williams.
Dywed yr adroddiad bod "ganddynt bryderon am ymddygiad anaddas yr Esgob".
Dyw hi ddim yn bosib canfod o'r adroddiad union natur yr honiadau.
Fe wnaethon nhw gyfeirio eu pryderon at John Davies, Archesgob Cymru ar y pryd, a benderfynodd bod angen ymchwiliad oherwydd eu difrifoldeb.
Penderfynwyd nad oedd gan yr Archesgob y pŵer i wahardd yr Esgob Pain ac y dylai "gamu o'i ddyletswyddau yn wirfoddol".
Wedi iddo gael manylion yr honiadau yn ei erbyn dywedir bod y cyfan wedi bod yn sioc i'r Esgob Pain a'i fod wedi ei synnu bod y Deon a'r Archddiaconiaid wedi mynd yn syth at yr Archesgob yn hytrach na siarad ag ef.
Fe benderfynodd beidio ymddiswyddo ond fe gytunodd i awgrym yr Archesgob i gamu o'r neilltu yn wirfoddol.
Yna fe gynhaliodd yr Eglwys yng Nghymru ddau ymchwiliad.
Roedd y naill ymchwiliad yn edrych ar yr honiadau a wnaed gan Alex o dan y polisi bwlio ac aflonyddu a'r llall yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr Esgob Pain a'i uwch-dîm; roedd yna sylw i ba mor addas oedd "defnydd yr Esgob Pain o alcohol" a'i lwyth gwaith.
Fe wnaeth y ddau ymchwiliad ddod i'r casgliad nad oedd angen gweithredu ymhellach.
Fe wnaeth adolygiad yr Esgob James ddod i'r casgliad nad oedd prosesau'r ymchwiliad "yn ddigon cadarn na thrwyadl".
Wrth ymateb dywedodd yr Archesgob Andrew John mewn datganiad: "Mae'n rhaid i sefydliad gael prosesau pwrpasol.
"Mae'n rhaid i bryderon sydd â sail iddynt gael eu trin o ddifri ac yn gyflym mewn dull na sy'n niweidio y rhai sy'n mynegi'r pryderon.
"Mae argymhellion yr adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, os y gweithredir arnynt, gam yn nes tuag at wella ein prosesau."
Mae'n ychwanegu bod yr adolygiad wedi dod i gasgliad fod Mr Tonge, Mr Mason a Mr Williams "wedi gweithredu gyda'r ewyllys orau ac wedi ymateb yn iawn i'w pryderon am yr esgob".
Nodwyd eu bod wedi ymddwyn yn broffesiynol wrth adrodd eu pryderon.
Ymddiheuro am ddatganiad papur newydd
Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd wedi ymddiheuro am ddatganiad "camarweiniol" a roddwyd i bapur y Western Mail ar 22 Rhagfyr 2018 - datganiad a gafodd ei ddefnyddio mewn nifer o adroddiadau eraill gan y wasg.
Roedd e'n cyfeirio at yr hyn oedd "yn cael ei ddyfalu am Esgob Mynwy ac at ei berthynas gyda'i uwch-dîm".
Mae'r adolygiad yn nodi bod Mr Tonge, Mr Mason a Mr Williams yn teimlo bod y datganiad yn awgrymu mai tor perthynas o fewn yr uwch-dîm oedd unig reswm y broblem a bod "materion eraill" a achosodd yr Esgob Pain i gamu'n ôl o'i ddyletswyddau ddim yn cael eu cydnabod.
Roeddent yn teimlo wedi'u "bradychu".
Dywedodd yr Archesgob John: "Doedd aelodau o uwch-dîm Esgobaeth Mynwy ddim wedi cytuno i'r datganiad ac fe achosodd y cyfan gryn ofid iddyn nhw.
"Roedd e'n gamarweiniol.
"Mae'r Eglwys yng Nghymru yn tynnu'r datganiad yn ôl yn swyddogol ac yn ymddiheuro yn ddiamod am y loes a'r gofid sydd wedi ei achosi."
Dywed Esgob presennol Mynwy, Cherry Vann, ei bod yn "hynod o falch" bod yr adroddiad yn "clirio enwau" Jonathan Williams, Lister Tonge ac Ambrose Mason.
"Rwyf am dalu teyrnged iddyn nhw, staff y swyddfa, yr offeiriaid a phobl yr esgobaeth a wnaeth barhau â gwaith yr Eglwys tra'n teimlo eu bod wedi'u hamddifadu."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru na fyddai'r honiadau yn erbyn yr Esgob Pain yn cael eu hymchwilio eto.
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â'r Esgob Pain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019