Beth yw'r wyddoniaeth tu ôl i amrywiad Omicron?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod amrywiolyn Omicron Covid-19 yn fwy trosglwyddadwy na Delta

Diwrnod arall ac mae gennym amrywiad arall. Nid yr amrywiad Omicron newydd yw'r cyntaf i gael ei ddarganfod ac ni fydd yr un olaf.

Erbyn hyn bydd llawer ohonoch yn gofyn o ble daeth yr amrywiad newydd hwn, a yw'n dal i achosi Covid-19 ac a yw'r brechlynnau'n gweithio? Yn bwysicach oll, bydd pobl yn holi a oes unrhyw obaith y bydd y pandemig hwn yn dod i ben, ac os oes, pryd?

Gobeithio y gallaf rannu rhywfaint o obaith gwyddonol Nadoligaidd ar gyfer y dyfodol.

Cellwyriad Omicron

Mae amrywiadau newydd yn codi oherwydd cellwyriadau (mutations) yng nghod genetig y 'feirws' ac weithiau mae'r rhain yn newid y ffordd mae'r feirws yn ymddwyn.

Mae hyn yn digwydd oherwydd pwysau sy'n cael ei roi ar y feirws gan ei amgylchedd. Mae imiwnedd, naill ai trwy haint naturiol neu drwy frechu, yn gwneud ein corff yn amgylchedd gelyniaethus ar gyfer feirws, gan roi'r feirws dan bwysau gan ein system imiwnedd, a'i gwneud hi'n anoddach iddo oroesi.

Gelwir hyn yn bwysau dethol (selective pressure) sy'n cynyddu'r siawns y bydd cellwyriadau ar hap yn digwydd ac amrywiadau newydd yn cael eu ffurfio.

Er enghraifft, mae graddfa gynyddol yn imiwnedd y boblogaeth yn ffafrio amrywiadau feirws a all ddianc yn rhannol rhag amddiffynfeydd y corff. Dyma beth sy'n cael ei weld gyda gallu'r amrywiad Omicron i osgoi gwrthgyrff niwtraleiddio'r system imiwnedd.

Felly y theori gyfredol yw ein bod ni'n fwy tebygol o weld mwy o amrywiadau yn cael eu darganfod wrth i ni adeiladu imiwnedd yn y boblogaeth fyd-eang. Ond, nid yw hyn o reidrwydd yn beth drwg.

Gall Omicron fod yn fwynach

Damcaniaeth wyddonol resymegol yw er mwyn i unrhyw feirws oroesi dros y tymor hir, yn y pen draw mae angen iddyn nhw esblygu i fod yn llai angheuol ac yn fwy trosglwyddadwy.

Prif nod feirws yw goroesi. Os yw feirws yn lladd ei 'westeiwr', mae'n llai tebygol o gael ei drosglwyddo i rywun arall a goroesi, felly nid yw'n feirws llwyddiannus iawn.

Bydd feirws sy'n cadw ei westeiwr yn fyw ac felly yn parhau yn drosglwyddadwy iawn yn feirws llwyddiannus.

Ffynhonnell y llun, Massimiliano Finzi

Dyma, o bosib, yw'r hyn rydym yn ei weld gyda'r amrywiad Omicron newydd, gydag achosion yn codi i'r entrychion, ond gyda mynediadau i'r ysbyty a marwolaethau yn parhau i fod yn gymharol isel. Rydym yn gweld y duedd hon yn Ne Affrica, lle nodwyd yr amrywiad gyntaf, ac yn y DU.

Nid yw hyn yn golygu nad ydym yn mynd i weld cynnydd mewn mynediadau i'r ysbyty neu farwolaethau. Bob blwyddyn rydym yn gweld uchafbwynt mewn ysbytai a marwolaethau yn ystod misoedd y gaeaf.

Y cwestiwn yw, a fydd yr amrywiad Omicron yn mynd â ni'n ôl at ffigurau tebyg i'r rhai dinistriol a welsom yn 2020?

Ar hyn o bryd, yn syml, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i ragweld hyn. Dyma pam mae gwleidyddion yn ofalus wrth i ni i gyd aros i weld beth sy'n digwydd i'r data.

Pam nad yw'r brechlynnau'n gweithio?

Yr ateb syml yw... maen nhw!

Mae gennym achosion o heintiau yn ymchwyddo yn y DU ond hyd yma nid yw marwolaethau a mynediadau i'r ysbyty oherwydd Covid-19 wedi cynyddu mewn gwirionedd. Felly da iawn i bawb ohonoch sydd wedi torchi'ch llewys i gael pigiad.

Mae'n ymddangos bod dau ddos o frechlyn yn lleihau difrifoldeb y clefyd a achosir gan SARS-CoV-2 yn sylweddol, a gall dos atgyfnerthu triphlyg atal pobl rhag cael unrhyw symptomau o gwbl.

Gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 90% o boblogaeth y DU - 93.9% yng Nghymru - â phresenoldeb gwrthgyrff, mae'n dangos bod mwyafrif y boblogaeth yn cario rhywfaint o imiwnedd i'r firws SARS-CoV-2. Mae'n edrych fel petai'r DU yn barod iawn am heintiau y gaeaf hwn.

Disgrifiad,

Drakeford: 'Dau ddos ddim digon effeithiol yn erbyn Omicron'