Effaith Omicron yn dod 'yn gyflym iawn ac yn serth iawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae amrywiolyn Omicron Covid-19 yn fwy trosglwyddadwy na Delta

Bydd Omicron yn taro Cymru "yn gyflym iawn ac yn serth iawn" ym mis Ionawr, mae'r prif weinidog wedi rhybuddio.

Dywedodd Mark Drakeford y gallai pob math o wasanaethau - o'r GIG i gasgliadau biniau - gael eu heffeithio pe bai llawer o weithwyr i ffwrdd yn sâl.

Roedd yn rhoi tystiolaeth i aelodau Senedd Cymru ar y diwrnod y mae ei lywodraeth yn penderfynu a oes angen mwy o gyfyngiadau i atal yr amrywiolyn Covid newydd rhag lledaenu.

Mae gweinidogion y Cabinet yn cynnal trafodaethau drwy'r dydd wrth iddyn nhw adolygu rheolau Covid Cymru.

Salwch

Mewn pwyllgor craffu, dywedodd Mr Drakeford: "Popeth yr ydym yn ei ddysgu am yr amrywiolyn Omicron yw bod ei effaith yn debygol o ddod arnom yn gyflym iawn ac yn serth iawn ym mis Ionawr.

"Felly ni fydd llawer iawn o amser i bobl fod yn ei dreulio ar ysgrifennu cynlluniau a'u cyhoeddi.

"Bydd yn rhaid iddyn nhw ddelio ag effaith yr amrywiolyn mewn amser real."

Yn ogystal â galw cynyddol am ofal iechyd, bydd yn effeithio ar y cyflenwad o wasanaethau oherwydd "bydd y bobl rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw yn debygol o fod yn sâl eu hunain".

Fe allai hanner poblogaeth y DU gael eu heintio, yn ôl rhai amcangyfrifon, meddai.

Cefnogaeth i fusnesau?

Ychwanegodd y prif weinidog bod darparu "cymorth ffres" ar gyfer rhannau o'r economi sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y coronafeirws yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Drakeford na ddangosodd Trysorlys y DU "unrhyw arwyddion" o "baratoi i gynnig help i ddiwydiannau a effeithiwyd, yn y tymor byr o leiaf" mewn cyfarfod Cobra o weinidogion datganoledig a'r DU ddydd Mercher.

Gan ganmol pwysigrwydd y cynllun cadw swyddi ffyrlo a chynlluniau eraill ledled y DU yn gynharach yn y pandemig, ychwanegodd Mr Drakeford mai'r Trysorlys yn unig sydd "â'r pŵer i gamu i mewn a chefnogi busnesau" i'r graddau hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Atherton yn poeni y bydd nifer uchel o bobl angen triniaeth ysbyty

Yn gynharach, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru fod y wlad "ychydig ddyddiau" y tu ôl i rai mannau yn y DU o safbwynt y cynnydd mewn achosion o amrywiolyn Omicron o Covid-19.

Dywedodd Dr Frank Atherton bod y ffigyrau - sy'n dangos 33 o achosion newydd o Omicron gan fynd â'r cyfanswm i 95 - yn dangos yr un tuedd a rhannau eraill o'r DU lle mae disgwyl i Omicron fod yr amrywiolyn mwyaf blaenllaw o Covid cyn hir.

Roedd yn arbennig o bryderus am allu'r amrywiolyn i ledaenu, gan ddweud nad oedd erioed wedi gweld y math yma o heintio yn y gymuned o'r blaen.

Fe wnaeth fynegi pryder hefyd am y posibilrwydd fod y straen yma wedi llwyddo i osgoi'r brechlyn, ac mai dyna pam bod cymaint o bwyslais ar yr ymgyrch i roi brechiad atgyfnerthu, sy'n ymddangos ei fod yn effeithiol.

Dywedodd bod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystyried mesurau gwarchod allai gael eu rhoi mewn grym i atal lledaenu'r feirws dros y Nadolig.

Gan bod yr amrywiolyn yn lledu mor gyflym, roedd Dr Atherton hefyd yn poeni y bydd nifer uchel o bobl angen triniaeth ysbyty, gyda'r risg o ddod â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol at ei liniau.

Ei gyngor i'r cyhoedd oedd i gwtogi faint o bobl y maen nhw'n cymdeithasu gyda nhw cymaint ag sy'n bosib ac i ystyried beth neu bwy yw eu blaenoriaethau dros y Nadolig.

Y fyddin i frechu'r cyhoedd

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd 98 o swyddogion y fyddin ar gael i gynorthwyo'r rhaglen frechu ygn Nghymru.

Bydd y lluoedd arfog yn gweithio gyda Llywodraeth Cymri i gyflymu'r rhaglen.

Fe fyddan nhw'n ffurfio 14 o dimau brechu, ac yn gymysgedd o staff meddygol a staff eraill fydd yn cefnogi gwaith staff GIG Cymru a gwirfoddolwyr wrth roi brechiadau.

Bydd y staff yn cael eu rhannu i bob un o saith bwrdd iechyd Cymru, gyda dau dîm i bob bwrdd.