'Is-etholiad yn rhoi gobaith i'r Dem Rhydd ym Mhowys'

  • Cyhoeddwyd
Helen MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Helen Morgan yn dilyn canlyniad ysgytwol is-etholiad Gogledd Sir Amwythig

Mae canlyniad isetholiad Seneddol Gogledd Sir Amwythig yn awgrymu y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol adennill tir a chipio seddi yng nghanolbarth Cymru, medd arweinydd Cymreig y blaid, Jane Dodds.

Cyn y bleidlais ddydd Iau roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o bron i 23,000 ond ail oedd eu hymgeisydd wrth i Helen Morgan gael ei hethol yn AS gyda mwyafrif o bron i 6,000, sef gogwydd o 34%.

Bu'n rhaid cynnal isetholiad ar gyfer hen sedd Owen Paterson, a fu yn nwylo'r Ceidwadwyr am bron i 200 mlynedd, wedi iddo yntau ymddiswyddo yn dilyn ymgais Llywodraeth y DU i'w warchod rhag cosb am dorri rheolau lobïo.

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai ond angen gogwydd o 8.6% i adennill sedd Brycheiniog a Maesyfed yn yr etholiad cyffredinol nesaf, a 17.7% i gipio etholaeth Maldwyn, sy'n ffinio â Gogledd Sir Amwythig.

Mewn datganiad dywedodd Ms Dodds bod etholaethau gwledig "wedi cael digon ar gael eu cymryd yn ganiataol" a bod etholiadau lleol gwanwyn nesaf yn gyfle "i ddanfon neges" i'r Ceidwadwyr a "bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yno i roi llais amgen cryf i'n cymuned".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceidwadwyr 'tosturiol' wedi cael digon ar lywodraeth Boris Johnson, yn ôl Jane Dodds

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod helyntion diweddar y Prif Weinidog, Boris Johnson yn ffactor "enfawr" yn yr is-etholiad ond bod etholwyr wedi cefnu ar y Ceidwadwyr am amryw o resymau eraill hefyd.

Fe gododd sawl pwnc wrth iddi ymuno â'r ymgyrchu ar garreg y drws, meddai.

Roedd hynny'n cynnwys sylwadau Peppa Pig Mr Johnson pan gollodd ei le wrth annerch arweinwyr busnes, parti Nadolig honedig yn 10 Downing Street yn groes i reolau Covid, a'r ffaith i 100 o ASau Ceidwadol bleidleisio yn erbyn tynhau canllawiau iechyd yn sgil Omicron.

"O siarad efo pobl oedd yn arfer bod yn Geidwadwyr, oeddan nhw yn Geidwadwyr tosturiol," meddai.

"Oeddan nhw ddim yn hoffi be oeddan nhw'n gweld yn y blaid... dros betha' fel mesura' yn erbyn ffoaduriaid... ac hefyd y deddfwriaeth newydd ar brotestio.

"Oedd o'n fwy na jest Boris Johnson, Boris Johnson a'i gabinet, a Boris Johnson a'r aelodau yn San Steffan."

Er i'r blaid ddatgan bod canlyniad yr is-etholiad yn "brawf" eu bod "yn ôl mewn busnes ac yn barod i herio'r Llywodraeth Geidwadol anhrefnus hon", fe wnaeth Ms Dodds gydnabod ar y rhaglen bod yna hanes o ennill cefnogaeth fawr mewn is-etholiad dim ond i'w golli yn y bleidlais sy'n dilyn.

Dyna ddigwyddodd yn ei hachos ei hun, pan gafodd ei hethol yn AS Brycheiniog o Maesyfed yn 2019 ac yna colli'r sedd i'r ymgeisydd Ceidwadol, Fay Jones yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019.

'Sioc'

Hefyd ar Dros Frecwast, dywedodd cyn AS Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies ei fod wedi disgwyl noson siomedig i'w blaid, ond bod y canlyniad "yn syndod i mi - yn fwy na hynny, oedd o'n sioc i mi".

Dywedodd: "Bydd rhaid i bob rhan o ein plaid edrych ar be' sydd wedi digwydd, y rhesyma' mae wedi digwydd - trio sicrhau bydd yr un peth ddim yn digwydd eto."

Dywedodd bod rhwygiadau mewnol yr wythnos ddiwethaf dros reolau Covid wedi gwneud "difrod mawr i'r blaid" ac yn fwy o broblem nag unrhyw bryderon ynghylch cyfeiriad Llywodraeth y DU.