Y tristwch tu ôl un o ganeuon 'mwyaf optimistaidd' y Rhyfel Mawr
- Cyhoeddwyd
Mae'n 70 mlynedd ers bu farw Cymro a sgrifennodd cân a ddisgrifiwyd fel 'un o'r caneuon mwyaf optimistaidd a luniwyd erioed'.
Ganwyd George Henry Powell yn Llanelwy yn 1880 ond gyda'r ffugenw George Asaf y daeth i amlygrwydd pan enillodd e a'i frawd, Felix, gystadleuaeth oedd â gwobr o 100 gini i gyfansoddi'r gân orau i godi ysbryd trigolion Prydain yn ystod dyddiau duon y Rhyfel Byd Cyntaf.
Y gân honno oedd Pack Up Your Troubles In Your Old Kit Bag.
'Arf recriwtio'
Mae'r hanesydd Dr Gethin Matthews yn arbenigwr ar effaith y rhyfel ar gymdeithas a diwylliant y Cymry:
"Yr hyn sydd yn ddifyr yn ystod y Rhyfel Mawr oedd fod llawer o filwyr Cymreig yn canu rhai o emynau mawr ein cenedl ar y ffordd i'r frwydr," meddai.
"Y dôn Aberystwyth, er enghraifft, oedd i'w chlywed cyn brwydr Mametz Wood yn 1916, a Bryn Calfaria wedyn yn atseinio wrth i'r Cymry nesáu at Jerwsalem y flwyddyn ganlynol yn yr ymladd ym Mhalisteina.
"Ond mae Pack Up Your Troubles yn gân wahanol gan ei bod yn fwy o arf recriwtio i gael dynion i ymuno â'r fyddin."
Roedd George a Felix a'u gwragedd yn perthyn i griw o ddiddanwyr o'r enw The Harlequinaders. Wrth berfformio yn Hippodrome Llundain fe glywon nhw am y gystadleuaeth i gyfansoddi cân yn arbennig i godi calonnau.
Cân boblogaidd iawn ar y pryd oedd It's a Long Way to Tipperary, a gafodd ei chyfansoddi yn 1912. Ond ysgrifennwyd cân y brodyr Powell ar ddechrau'r brwydro yn 1914 cyn ennill y gystadleuaeth a gyfansoddwyd gan gwmni cyhoeddi cerddoriaeth Francis and Day.
Doedd George Asaf ddim yn hyderus y byddai'r gân yn llwyddiant, ac anghofiodd amdani am gyfnod gan nad oedd e'n credu ei bod hi'n gân ddigon da.
Ond fe ffrwydrodd poblogrwydd y darn ar ôl hynny gydag argraffiadau ohoni (a werthwyd am 6 cheiniog) yn nodi ei bod yn:
"…a philosophy song, is now being sung and whistled by the troops as they march along, we believe it will become overwhelmingly popular."
Effaith y rhyfel
Un arall a gyfansoddodd gân mewn cystadleuaeth o'r fath a gynhaliwyd yma yng Nghymru oedd y Parchedig John Gwili Jenkins, golygydd cyhoeddiad y Bedyddwyr, Seren Cymru.
Ond fel Gwili Jenkins, fe ddadrithiwyd George Asaf gyda'r tywallt gwaed wrth i'r rhyfel rygnu mlaen, ac wrth i nifer y meirwon bentyrru fe drodd yn heddychwr o argyhoeddiad.
Erbyn i orfodaeth filwrol gael ei gyflwyno yn 1916 fe'i rhestrwyd fel gwrthwynebydd cydwybodol. Roedd ganddo hefyd amheuon mawr a ddylai ei gân gael ddefnyddio i ddenu dynion ifanc i'r rhyfel ac i'w tranc.
Serch hynny, fe ymddangosodd fersiynau ohoni yn y Sbaeneg, Iseldireg ac hyd yn oed, yn eironig, yr Almaeneg, ond i Asaf ei hun "piffle" oedd y gân. Bu farw 3 Rhagfyr 1951.
Yn wahanol i'w frawd fe ymunodd Felix â troupe perfformio The White Knights a gafodd eu hanfon i ddiddanu milwyr yn Ffrainc.
Ond er na welodd unrhyw frwydro, fe gafodd y profiad effaith drom arno, ac fe laddodd ei hun yn 1942.
Mewn nodyn a ddarganfyddwyd ar ôl ei farwolaeth, dywedodd - "I can't write music any more".
Fodd bynnag, mae ei waddol yntau a'i frawd yn parhau, a'u campwaith dal yn adnabyddus hyd heddiw.
Ar ôl It's a Long Way to Tipperary, "efallai dyma'r gân boblogaidd ma' pobl yn cysylltu fwyaf gyda'r Rhyfel Mawr", yn ôl Dr Matthews.
"Ma' hi wedi aros gyda ni hyd heddi', yn rhannol dwi yn credu gan ei bod yn gân roedd milwyr o'r rhyfel hwnnw yn canu ar ôl gadael y fyddin ac ro'n nhw'n hoff o ganu mewn aduniadau yn y blynyddoedd dilynol."