Lily Sullivan: Teyrnged teulu i ferch 'garedig a gofalgar'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch 18 oed a gafwyd hyd iddi'n farw yng nghanol tref Penfro wythnos diwethaf wedi talu teyrnged iddi.
Bu farw Lily Sullivan yn ystod yr oriau mân ddydd Gwener 17 Rhagfyr.
Mae dyn 31 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dal yn y ddalfa wedi i ynadon roi 36 awr ychwanegol i Heddlu Dyfed-Powys ei holi.
Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Roedd Lily yn ferch garedig a gofalgar a fydd yn cael ei cholli'n arw gan bawb.
"Mae'r teulu'n ddiolchgar iawn i holl ffrindiau Lily am eu cefnogaeth."
Siarad â thri pherson
Dywed y llu eu bod bellach wedi gorffen archwilio ardal o amgylch Mill Pond y dref.
O ganlyniad apêl i'r cyhoedd ddydd Sadwrn, maen nhw hefyd wedi siarad gyda thri pherson a gafodd eu gweld yn cerdded gyda chi yn ardal Main Street tua 02:40 fore Gwener.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu gyda'r heddlu gyda gwybodaeth sy'n ein helpu i greu darlun o'r hyn a ddigwyddodd i Lily," dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Jones.
Mae teulu Lily yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol wrth i'r ymchwiliad barhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021