Carcharu cyn-blismon am berthnasau amhriodol â dwy fenyw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-heddwas priod gyda Heddlu Gwent wedi cael ei ddedfrydu i 18 mis o garchar yn sgil perthnasau anaddas gyda menywod oedd wedi rhoi tystiolaeth iddo yn ystod ymchwiliadau heddlu.
Roedd Paul Chadwick, sy'n 51 oed ac o Bont-y-pŵl, wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn sgil y perthnasau gyda dwy fenyw yn 2020.
Clywodd Llys Y Goron Caerdydd fod Chadwick, sy'n dad i dri o blant, wedi cael rhyw hyd at 20 o weithiau dros bedwar mis gydag un o'r menywod, oedd yn fregus ac wedi dioddef ymosodiad.
Roedd wedi cusanu'r ail fenyw a rhannu dros 240 o negeseuon testun, rhai o natur rywiol, gyda hi.
'Hollol anghyfrifol'
"Roedd y rhain yn weithredoedd bwriadol - dechrau perthnasau gyda menywod y buoch chi mewn cysylltiad â nhw yn sgil eich dyletswyddau," dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth ei ddedfrydu.
"Doedden nhw ddim yn achosion o gamddefnyddio eich awdurdod, ond fe roeddech chi yn hollol anghyfrifol."
Clywodd y llys bod y berthynas gyntaf wedi para rhwng Ionawr ac Ebrill 2020 a'r ail am bythefnos ym mis Mai y llynedd.
Fe ddechreuodd yr heddlu ymchwiliad i ymddygiad Chadwick fis Tachwedd y llynedd wedi i'r dioddefwr gyntaf ddatgelu'r berthynas i ddau swyddog heddlu.
Roedden nhw'n ymateb i adroddiadau bod menyw'n sefyll ochr anghywir reilins bont uwchben prif ffordd yng Nghwmbrân.
'Fe ddylai fod wedi camu'n ôl'
Dywedodd y fenyw wrthyn nhw ei bod ar chwâl ar ôl dod i wybod bod Chadwick - "rhywun oedd yn credu ynof fi" - yn briod.
"Cwympais mewn cariad gyda rhywun, a ddyliwn ni heb wneud, ac fe gwympodd e mewn cariad â mi," roedd wedi dweud wrth y swyddogion heddlu.
Ychwanegodd ei bod wedi gwneud addewid na fyddai'n ni'n hysbysu'r heddlu am ei fod "yn briod" gyda "phum mlynedd yn unig" cyn ymddeol.
Yn ôl Roger Griffiths ar ran yr erlyniad roedd y fenyw wedi dweud y byddai Chadwick yn ymweld â hi pan nad oedd ar ddyletswydd a'u bod wedi cael rhyw 10 neu 20 o weithiau.
Ar ôl dechrau ymchwiliad fe ddaeth yr heddlu o hyd i negeseuon o natur rywiol ar ffôn, a dod i wybod am berthynas bosib gyda'r ail fenyw.
Fe ymddiswyddodd Chadwick o Heddlu Gwent haf diwethaf.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Susan Ferrier, bod Chadwick wedi pledio'n euog i'r ddau gyhuddiad yn ei erbyn er ei fod yn gwybod nad oedd yr ail ddioddefwr wedi helpu ymchwiliad yr heddlu.
Gan gyfeirio at y fenyw gyntaf, dywedodd: "Fe ddylai fod wedi camu'n ôl, ond ni wnaeth e.
"Ni wnaeth ymddwyn yn amhriodol ar unrhyw adeg tra ar ddyletswydd. Daeth yn rhan o berthynas amhriodol, sydd - yn sgil ei swydd - wedi arwain at fod gerbron llys."
Ychwanegodd Ms Ferrier bod sawl ffactor yn cael effaith arno ar y pryd, gan gynnwys y ffaith i'w wraig gael diagnosis o ganser ychydig cyn eu diwrnod priodas.
"Roedd hi'n dal yn cael triniaeth, ac yn parhau i gael triniaeth ar hyn o bryd," meddai.
"Dyma esiampl glir o ddyn a dreuliodd ei fywyd yn gwneud y pethau cywir, ond yn anffodus fe wnaeth sawl peth oedd yn effeithio ar ei fywyd arwain at wneud y peth anghywir, sef pam y mae e yma nawr.
"Mae wedi cosbi ei hun bob un diwrnod ers i hyn ddigwydd... oherwydd mae wedi siomi ei hun, ei wraig a'r heddlu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2021