Llangollen: Teithiau trên Nadolig yn ailgychwyn ar ôl heriau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
plant a'u rhieni yn dod oddi ar y trên
Disgrifiad o’r llun,

Mae cenedlaethau o blant wedi mwynhau teithiau trên o Langollen i weld Siôn Corn

Mae dathlu yn Llangollen y Nadolig hwn wrth i'r rheilffordd yno ailagor i deithiau trên Siôn Corn ar ôl cyfnod heriol.

Ddechrau'r flwyddyn roedd pryder am ddyfodol y rheilffordd, sy'n rhedeg rhwng Llangollen a Chorwen, oherwydd dyledion.

Ond gyda chymorth gwirfoddolwyr, fe agorodd y cwmni'r rheilffordd dros yr haf, gyda'r traddodiad o gynnal teithiau trên i blant gael cwrdd â Siôn Corn yn rhedeg unwaith eto.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithrediadau'r rheilffordd na fyddai wedi dychmygu gallu agor ar gyfer y teithiau Nadolig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Williams fod y trenau Siôn Corn "wedi cael eu cefnogi'n dda"

Dywedodd Mike Williams: "Ddaru ni ailagor ym mis Gorffennaf ac mae pethau wedi bod yn dda iawn efo dros 17,000 o bobl yn cael eu cludo ar y cledrau.

"Ddaru ni ddim meddwl y buasem ni yn gallu cael y trenau Siôn Corn yn rhedeg ond rydyn ni wedi gallu ac maen nhw wedi cael eu cefnogi'n dda."

Gyda'r rheilffordd wedi cau dros y gaeaf, mae ail-gynnal y trenau Nadolig yn dod ag arian ychwanegol i'r coffrau ar adeg dawel.

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae'n braf iawn gweld pobl yn mwynhau eu hunain. Mae'r bobl wedi dod yn ôl i gefnogi'r rheilffordd ac maen nhw'n ei fwynhau o. Dyna'r peth pwysig."

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i reilffordd Llangollen yn dod o ardal y gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr.

Eleni, mae pobl wedi archebu tocynnau ar gyfer y teithiau o ardaloedd mor bell â Dyfnaint a Chaint.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma Gilbert fod gwirfoddoli ar y rheilffordd yn "hollol anhygoel"

Un o'r bobl a ddechreuodd wirfoddoli tair blynedd yn ôl yw Emma Gilbert.

Oherwydd y pandemig a'r heriau wrth orfod cau'r rheilffordd am gyfnodau, mae hi'n dweud i'r cyfleoedd i wirfoddoli fod yn brin.

Ond bellach, mae hi'n falch i gael codi am 05:30 y bore i danio'r trenau stêm yn barod am waith y diwrnod.

Dywedodd: "Mae'n hollol anhygoel. Byddwn ni'n rhoi gymaint o amser, gymaint o egni, gymaint o angerdd i gael y trenau'n ôl ar y cledrau.

"Roedd 'na bryder na fyddem ni yn gallu agor y rheilffordd unwaith eto ond rŵan bod ni 'di gwneud a bod pobl yn eu hôl rydym ni'n falch iawn."

Yn dilyn cyfnod heriol, y gobaith yw y bydd y flwyddyn newydd yn un llwyddiannus i drenau stêm Dyffryn Dyfrdwy.