Covid-19: Sut mae ymdrin â’r 'ysblygwr carlamus'?
- Cyhoeddwyd
"Esblygiad Grand Prix yw esblygiad firysau, ac felly mewn ffordd wahanol y maent yn addasu."
Yr Athro Arwyn Jones, sy'n Gyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n edrych ar esblygiad feirws Covid-19 ac yn gofyn, oes gobaith y gall cyfres o dri brechlyn ein gwarchod rhag pob amrywiolion?
Gwnaeth Charles Darwin ac Alfred Wallace sylweddoli fod anifeiliaid ag adar, fel y rhai yn Ynysoedd y Galapagos, wedi addasu i ffitio eu amgylchiadau amgylcheddol.
Dyma sail esblygiad, sydd yn y cyd-destun hwn yn gallu cymeryd miloedd o flynyddoedd a mwy i'w amlygu.
Ond nid felly mae firysau'n gweithio ac eleni rydan ni wedi bod yn dyst i hyn. Drwy'r trwyn neu'r ceg, gall un amrywiolyn heintio corff a dau neu dri diwrnod yn ddiweddarach gael ei dasgu yn filiynau o ronynnau bach, allan o'r un ffynonellau; ond fel amrywiolyn newydd.
Esblygiad Grand Prix yw esblygiad firysau, ac felly mewn ffordd wahanol y maent hefyd yn addasu. Yn tanseilio addasiadau firws mewn cell corff sydd wedi ei heintio â COVID-19, yw newidiadau geneteg a genynnol.
Strwythur o ddimensiwn nano a syml iawn yw COVID-19, sydd yn hollol ddibynnol ar fecanweithiau ein celloedd ni i luosi a chreu niwed, cyn gadael y corff i heintio eraill.
Proses ddiffygiol
Mae'r broses y mae'n gwneud hyn yn ddiffygiol, yn amlugu (multiply) i ffurfio mwtaniadau sydd yn creu amrywiolion newydd. Mae'r mwyafrif o'r mwtaniadau hyn yn ddiwerth ar amrywiolyn ac yn diflannu; ond mae rhai eraill yn hynod fanteisiol.
I'r amrywiolion sy'n gyffredin i ni heddiw fe wnaethpwyd penderfyniad gan y WHO i ddefnyddio'r wyddor Roegaidd i ni gael rhoi enw mwy syml arnynt ac nad oedd â stamp daearyddol arnynt. Ac felly trodd Amrywiolyn B.1.1. 7 neu amrywiolyn Caint yn Alpha a cyn i ni droi roedd Beta wedi pasio heb lawer o drafferth cyn i Delta ddomineiddio ar raddfa anhygoel a bydol i sefydlu ei hun fel brenin y COVID.
Roedd y mwtaniadau yn ei gyfansoddiad geneteg yn rhoi mantais iddo dros y gweddill i ledaenu o berson i berson. Hyn hefyd yn pwysleisio y gall un amrywiolyn leihau amlygrwydd rai eraill yn llawer mwy effeithiol na unrhyw gyffur neu frechlyn sydd, hyd yn hyn, wedi ei ddarganfod.
Teyrnasiad Omicron
Heddiw mae hi'n edrych yn debyg mai teyrnasiad byr gafodd Delta cyn i Omicron gymryd yr awenau. Mae'r dychymyg yn colli trefn o gylch cread hwn, gan iddo ymddangos fel endid oedd wedi ei greu gan ddyluniwr yn hytrach na drwy esblygiad.
Mae'r dystiolaeth gynnar yn rhoi cysur nad ffiaidd oedd y dyluniwr ac nad yw Omicron yn achosi haint trymach na Delta - ysgafnach efallai.
Ond beth am y wyddor Roegaidd? Dyw Omicron ddim yn dilyn Delta. Beth ddigwyddodd I'r gweddill? Oedd, roedd amrywiolion Epsilon, Zeta, Eta, Theta, Iorta, Kappa, Lambda a Mu wedi bodoli ac ar radar y WHO ond dim Nu na chwaith Xi cyn cyrraedd Omicron.
Penderfynodd y WHO beidio â defnyddio Nu a Xi gan fod y naill yn rhy debyg i 'New' a'r llall yn enw a chyfenw poblogaidd iawn mewn rhai mannau o'r byd. Tybed hefyd os cafodd Ysgrifennydd Cyffredinol presennol y blaid Gomiwnyddol Tsieina air bach â'r sefydliad cyn iddynt wneud y penderfyniad?
Sut mae ymdrin â'r amrywiolion yma gan ei bod yn anochel y bydd Pi ac amrywiolion eraill yn esblygu o'r amrywiolion cyfredol? Ar hyn o bryd ychydig yn siomedig yw'r helfa am gyffur all arbed COVID-19 heintio a lluosi yn y corff neu effeithiau'r haint ar y corff.
Tystiolaeth i'r ffaith fod firysau yn fychan iawn a phrin iawn yw'r targedau i ni anelu cyffuriau atynt. Gan gofio hefyd nad oes yn ein meddiant gyffur perffaith i ymdrin â firws y ffliw sydd wedi bod yn faich meddygol cymdeithasol ers canrif a mwy.
Ond mae cyffuriau fel Molnupirovir, Xevudy a Paxlovid a photensial i allu lleihau salwch difrifol ar y rhai sydd wedi eu heintio yn barod. Yn sicr mae mwy ar y gorwel gan obeithio y bydd un yn amlygu yn 2022 fel meddyginiaeth effeithiol.
Gobaith brechlynnau
Ond beth am y brechlynnau? Oes gobaith y gall cyfres o dri brechlyn ein gwarchod rhag pob amrywiolion? Oes a nag oes.
Mae'r brechlynnau yn ysgogi ein system imiwnedd i adnabod y protein spike sydd yn amlwg iawn ar wyneb y firws. Ond mae'r brechlynnau cyfarwydd yn adnabod protein spike sydd a chyfansoddiad gwahanol i brotein spike Omicron.
Mae'r protein spike yn gweithredu i fachu'r firws i'n celloedd ni a galluogi iddo gael mynediad i luosi. Buasai gormod o newid yn ei wneud yn ddiwerth, mae'n rhaid cael rhyw gysondeb gweithredol a dyna pam fod y brechlynnau presennol o hyd yn mynd i roi rywfaint o warchodaeth i ni rhag pob amrywiolyn. Mae technoleg hefyd yn ochri gyda ni gan mai proses hawdd iawn yw creu brechlynnau newydd yn erbyn Omicron a Pi ayb.
Her y dyfodol
Her enfawr i ni'n fydol yw diogelu pawb, gan gofio i Gordon Brown ddatgan "nad oes neb yn ddiogel nes bod pawb yn ddiogel".
Roedd hefyd yn pwyntio bys at ein llywodraethau ni, wledydd cyfoethog, am fod yn hunanol a gwrthod rhannu ein cyflenwadau ni â gwledydd tlawd. Pa siawns o frechlynnu y ddynoliaeth gyfan?
Erbyn hyn mae biliynau o bobl, oddeutu 55% o boblogaeth y byd, wedi derbyn o leiaf un brechlyn ond mae 45% (biliynau mwy) yn weddill.
Yma yn y Deyrnas Unedig mae oddeutu 5 miliwn heb, am amryw o resymau, dderbyn un brechlyn. Oes gobaith difa ysblygwr carlamus fel COVID-19 gydag ystadegau fel hyn? Nac oes, a'r obaith y tu allan i ddarganfod cyffur (y fwled hudolus) yw datblygu (neu esblygu!) i fargeinio â'r gwalch nano a'i amrywiolion.
Hynny yw, ein bod yn dilyn trefn ein perthynas a'r ffliw a chadw llygad craff allan am amrywiolion newydd a chreu brechlynnau newydd, efallai pob blwyddyn, i greu amddiffyniad newydd.
Dros amser bydd ein systemau imiwnedd yn gallu rhoi mwy a mwy o warchodaeth i ni. Dyna, gydag ychydig bach o help brechlynnau, yw esblygiad a'r gobaith ar drothwy ail flwyddyn o fodolaeth COVID-19.