Teithio'r Nadolig: Covid yn achosi problemau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TrênTFW
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 70% o wasanaethau trên sydd yn rhedeg yn ôl eu harfer

Fe allai rhai gwasanaethau trên yng Nghymru gael eu canslo ddydd Mercher oherwydd prinder staff o ganlyniad i Covid.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TfW) yn rhybuddio teithwyr i wneud yn siŵr pa wasanaethau sydd ar gael cyn cychwyn ar eu siwrne. Dim ond 70% o wasanaethau sydd yn rhedeg yn ôl eu harfer gan bod staff yn sâl neu'n hunan ynysu.

Mae yna rybudd i fodurwyr hefyd gyda chymdeithasau moduro'r RAC a'r AA yn darogan y bydd y dyddiau cyn diwrnod y Nadolig ymhlith y prysuraf ar y ffyrdd ers pum mlynedd.

Ar ôl cyfyngiadau'r llynedd fe fydd miloedd o bobl yn awyddus i dreulio rhagor o amser eleni yng nghwmni eu teulu a'u ffrindiau.

Ond y gwasanethau rheilffordd sydd yn wynebu'r heriau mwyaf. Y gred ydy y bydd absenoldeb staff oherwydd Covid yn taro gwasanaethau rhwng y de a'r gogledd a chysylltiadau i Fanceinion a de Lloegr.

Fe fydd y sefyllfa hefyd yn amharu ar linell y Cambrian, gwasanaethau i'r Cymoedd a rheilffordd Calon Cymru.

Mae pobl sy'n teithio i aros gyda theulu neu ffrindiau'r Nadolig hwn wedi cael cyngor gan Lywodraeth Cymru i gymryd profion Covid ymlaen llaw er mwyn helpu i leihau lledaeniad y feirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er y bydd hi'n brysur ar y ffyrdd, mae arbenigwyr yn darogan y bydd 10% o bobl yn aros gartref ohewrydd pryderon Covid 19

Beth sy'n digwydd ar y ffyrdd?

Mae arbenigwyr yn proffwydo y bydd yna 27m o deithiau ar y ffyrdd yn y cyfnod yn arwain at Ddydd Nadolig, ond mae nhw'n amcangyfrif hefyd y bydd un ymhob 10 yn aros gartref oherwydd pryderon am y pandemig.

Yn ôl cymdeithasau moduro'r AA a'r RAC fe fydd yr ardaloedd prysur yn brysurach na'r arfer rhwng 12:00 a 16:00 ddydd Iau a rhwng 11:00 a 14:00 ar Noswyl Nadolig.

"Er gwaetha'r pryderon am amrywiolyn Omicron, mae ein hymchwil ni yn dangos bod mwyafrif helaeth o yrwyr yn benderfynol o wneud Nadolig iawn ohoni eleni," meddai Rod Dennis o'r RAC.

Er hynny mae lle i gredu na fydd y traffig mor drwm ag arfer oherwydd cyfyngiadau Covid.

"'Dyn ni ddim yn credu y bydd y ciwiau traffig mor ddrwg ag arfer gan bod cymaint o bobl yn dal i weithio o gartref," yn ôl Edmund King, Llywydd yr AA.

Yr ardaloedd o'r M4 ar gyrion Casnewydd, Port Talbot ac Abertawe sydd ymhlith y prysuraf fel arfer.

Mae gyrwyr wedi cael cyngor i ddechrau eu teithiau ynghynt neu deithio wedi iddi hi dywyllu er mwyn osgoi y traffig gwaethaf.

Beth arall sy'n digwydd ar y rheilffyrdd?

Yn ogystal â gwasanaethau cyfyngedig ar drenau Trafnidiaeth Cymru ddydd Mercher, fydd yna ddim trenau rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful ac Aberdâr rhwng 27 Rhagfyr a 6 Ionawr.

Fe fydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth bws rhwng y dyddiadau yma gan bod peirianwyr yn gwella'r trac fel rhan o gynllun Metro De Cymru.

Mae newidiadau hefyd i amserlen gwasanaethau GWR rhwng y de a Llundain rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd oherwydd gwaith ar y lein yn ardal Bryste. Dim ond unwaith yr awr y bydd y gwasanaethau yn rhedeg ac fe fydd hyd y siwrne yn ymestyn.

Mae'n bosib y gall y gwaith ym Mryste amharu ar wasanethau trên o'r gogledd i Lundain hefyd. Mae Avanti yn annog teithwyr i wirio'r amserlen cyn cychwyn eu siwrne.

Hwylio rhwng Cymru ac Iwerddon

Mae disgwyl i tua 12,000 o deithwyr ddefnyddio gwasanaeth Irish Ferries cyn y Nadolig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i 12,000 hwylio rhwng Cymru ac Iwerddon dros gyfnod y Nadolig

Mae teithwyr wedi cael rhybudd i deithio yn gynnar i osgoi traffig. Bydd gwasanaethau olaf Irish Ferries yn gadael Caergybi am 14:10 ar Noswyl Nadolig ac yn hwylio rhwng Penfro a Rosslare am 14:45 yr un diwrnod.

Fe fydd Stena Line yn cynnig chwe chroesiad rhwng Iwerddon a Chymru ar Noswyl Nadolig - pedwar rhwng Dulyn a Chaergybi a dau rhwng Rosslare ac Abergwaun. Mae gofyn i bob teithiwr gydymffurfio gyda chanllawiau Covid 19 cyn teithio.