Senedd Cymru: Bwrw golwg ar flwyddyn heriol 2021
- Cyhoeddwyd
"Mae'n rhaid i ni fod yn obeithiol" wrth edrych i'r flwyddyn newydd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Rhybuddiodd Mark Drakeford y bydd dechrau 2022 yn gyfnod "heriol" oherwydd amrywiolyn Omicron.
Ond wedi hynny, dywedodd ei fod yn hyderus o allu cyflwyno polisïau fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd pobl.
Daeth y sylwadau wrth i Mr Drakeford edrych yn ôl dros flwyddyn sydd wedi bod "yn anodd i bawb".
"Mae'r coronafeirws wedi bod gyda ni dros y flwyddyn i gyd ac mae hwnna yn creu cyd-destun ble mae pobl yn becso am y dyfodol," meddai.
"Ond mae nifer o bethau sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn sydd wedi bod yn ddigon llwyddiannus," ychwanegodd gan gyfeirio at yr economi a'r modd yr oedd pobl yn gallu mwynhau'r haf wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.
Ethol Senedd newydd
Llwyddiant arall i Mr Drakeford wrth gwrs oedd ennill yr etholiad i Senedd Cymru ym mis Mai wrth i'r Blaid Lafur ennill union hanner y seddi ym Mae Caerdydd.
Y Ceidwadwyr ddaeth yn ail a Phlaid Cymru'n drydydd - gydag un o gyn-arweinwyr y Blaid, Leanne Wood, yn cael siom yn y Rhondda.
Ac wrth i'r etholwyr wrthod y ddadl dros ddiddymu'r sefydliad, dal eu gafael ar un sedd wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol - buddugoliaeth y cyn-Aelod Seneddol Jane Dodds yn sicrhau y byddai gan y blaid bresenoldeb o hyd ym Mae Caerdydd ar ôl i'r cyn-weinidog addysg Kirsty Williams ildio'i sedd.
"Pan roeddwn i'n cyrraedd yma fi oedd yr unig Ryddfrydwr ac yn teimlo dipyn bach fel Billy No-mates," meddai Ms Dodds wrth edrych nôl ar eu dyddiau cynnar yn y Bae.
"Ond mae'n lle ble mae pawb yn helpu, ges i groeso mawr gan bawb a dweud y gwir, a rŵan dwi'n deall beth sy'n mynd ymlaen."
Wrth gael ei holi am sut mae Bae Caerdydd yn cymharu â San Steffan, dywedodd: "Mae'n hollol wahanol. Mae pawb yn edrych ar sut allwn ni gydweithio ar bethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru."
Newid arweinydd
Ar ddechrau'r flwyddyn y blaid Geidwadol gipiodd y penawdau gwleidyddol.
Fe ymddiswyddodd Paul Davies fel arweinydd y grŵp Torïaidd ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod e'n un o bedwar Aelod oedd wedi yfed alcohol ar dir y Senedd ym mis Rhagfyr, a hynny'n groes i'r cyfyngiadau Covid ar y pryd.
Ac felly mi ddychwelodd hen law at lyw y Ceidwadwyr - fe ailgydiodd Andrew RT Davies yr yr awenau lai na thair blynedd ers rhoi'r gorau i'r swydd.
"Mae wedi bod yn rollercoaster fel mae'n nhw'n dweud," meddai'r Ceidwadwr Sam Kurtz gafodd ei ethol am y tro cyntaf ym mis Mai.
"We'n i byth yn meddwl bod bachgen ifanc o'r gorllewin yn gallu eistedd yma ym Mae Caerdydd yng nghanol y broses ddemocrataidd yng Nghymru a dwi'n bles iawn am 'ny.
"Ond fel plaid Geidwadol mae'n rhaid i ni edrych mewn aton ni'n hunen nawr, gofyn y cwestiynau anodd: beth mae pobl Cymru mo'yn yn y dyfodol?"
Ym mis Hydref un arall o aelodau newydd y Ceidwadwyr aeth â'r sylw.
Methodd Gareth Davies â chysylltu o bell mewn pryd i bleidleisio yn erbyn cyflwyno pasys Covid, ac felly - er bod y gwrthbleidiau i gyd yn gwrthwynebu - pasio wnaeth y pasys.
Cytundeb tair blynedd
Ond er gwaetha'r llwyddiant i'r llywodraeth roedd y bleidlais yn brawf pellach - os oedd angen - o'r trafferthion allai wynebu Mark Drakeford heb fwyafrif.
Erbyn hynny mi roedd trafodaethau ar droed gyda Phlaid Cymru dros gydweithio'n y Senedd.
Daeth cyhoeddiad ddiwedd Tachwedd bod cytundeb wedi dod i gydweithio ar ddwsinau o feysydd polisi dros y tair blynedd nesaf.
Wrth edrych i'r dyfodol mae'r AS Sioned Williams o Blaid Cymru, gafodd ei hethol yn y gwanwyn, yn obeithiol am y cytundeb.
"Mae gweld rhywbeth fel prydau bwyd am ddim i bob plentyn cynradd wedi cynnig gobaith i fi, yn enwedig yn sgil y ffaith bod canlyniad yr etholiad yn siomedig i ni - bod ni ddim wedi medru bod yn Llywodraeth Cymru.
"Mae yna lot o bethe heriol iawn yn y cytundeb ond maen nhw'n bethe dwi'n meddwl ble rydyn ni'n medru cydweithio, rydyn ni'n medru delifro."
Ond am y tro, Covid yw'r flaenoriaeth o hyd wrth i'r pandemig barhau i daflu cysgod dros Fae Caerdydd a thu hwnt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021