Canolfan gofal sy'n dathlu'r 10 yn 'llawn angylion'
- Cyhoeddwyd
Degawd ers sefydlu canolfan gofal dydd ger Llanelwy, dywed perthnasau y rhai sy'n cael gofal ynddo "na allwn fyw hebddo".
Mae Capel y Waen yn darparu prydau, mân weithgareddau a chwmni i "gymuned wasgaredig wledig".
"Pan mae pobl yn mynd yn hŷn neu'n wael mewn cymuned wledig ma' nhw'n a'u perthnasau yn gallu bod yn ynysig iawn," meddai'r Athro Mari Lloyd-Williams, oedd wrth wraidd y weledigaeth.
"Os 'dach chi'n byw mewn tre', 'dach chi'n gallu edrych drwy'r ffenest a gweld rhywun.
"Os 'dach chi'n byw yn y wlad mae'r unigrwydd a'r ynysu pan mae salwch yn dod yn gallu bod yn llethol.
"Teimlo o'n i bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth - bod yn gymuned dosturiol sy'n gweithredu dros eraill."
Capel bychan iawn yw Capel Gwaungoleugoed a'r aelodau a'u cysylltiadau sydd yn darparu y gofal dydd. Ond does dim rhaid bod yn aelod nag â chysylltiad â'r capel i gael gofal.
Dywed Brynle Jones y byddai ef ar goll heb y ganolfan a bod ei fywyd wedi newid er gwell ers i'w wraig Valerie ddechrau mynd yno.
"I ddechrau ro'n i'n teimlo yn gaeth yn fy nhŷ oherwydd sefyllfa dementia Valerie. Mae'r gofal yng nghapel y Waen yn arbennig o dda, mae'r awyrgylch yn hyfryd ac mae'n fan diogel," meddai.
"Mae yna bwysau aruthrol ar rywun. Does dim bai ar y wraig, wrth gwrs, ond mae wedi bod yn anodd i mi dderbyn y sefyllfa.
"Mae'r ffaith bod hi'n gallu mynd i ganolfan ddydd y Waen yn rhoi rywfaint o ryddid i fi - dwi'n gallu nôl petha' gan wybod bod y wraig mewn awyrgylch o heddwch, bodlonrwydd a chariad.
"Mae'r lle yn llawn angylion. Dwi'n gweld nhw pan dwi'n mynd i gasglu Valerie. Mae'r merched yna - y chwiorydd sy'n gwirfoddoli yna yn deall y sefyllfa.
"Mae eu hymdrechion nhw a'u gofal nhw yn ddiddiwedd. Ma'n nhw'n cael hwyl ac mor gartrefol."
'Gwneud gwahaniaeth'
Un o'r gwirfoddolwyr yw Llinos Roberts a dywed bod y ganolfan yn "un teulu mawr".
"Mae'r rhan fwyaf yn dod o Ddyffryn Clwyd ond ry'n yn ymestyn allan i Fro Aled a chyn belled ag Ysbyty Ifan," meddai.
"'Dan ni gyd yn cael budd o fod yma. Mae'n beth mor braf bod yn rhan o'r holl beth a gweld y bobl sy' 'ma yn altro wedi iddyn nhw gyrraedd.
"Un teulu mawr ydyn ni yn rhannu popeth gyda'n gilydd. Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r cwmni. Does yna ddim byd mawr yn mynd ymlaen - ond mae'r croeso, y cwmni, tamaid bach o fwyd ac ambell weithgaredd yn bwysig iawn.
"'Dan ni - y rhai sy'n dod yma i helpu - yn cael bod yn rhan o'r holl beth. 'Sech chi wir yn synnu y gwahaniaeth mae'r cyfan yn ei wneud i bawb. Mae pawb yn gwarchod ei gilydd."
Mae canolfan ddydd Capel y Waen yn waith gwirfoddol ac yn costio dros £30,000 y flwyddyn.
Gofal am un diwrnod yr wythnos oedd ar gael i ddechrau ond oherwydd cymaint y galw mae'r ganolfan bellach yn darparu gofal am ddeuddydd yr wythnos i oddeutu 60 o bobl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021