Carchar i ddyn o'r Fflint am stelcian cyflwynydd BBC
- Cyhoeddwyd

Roedd Carl Davies, 44, wedi pledio'n euog i stelcian Ms Minchin a'i merch
Mae dyn o Sir y Fflint wedi ei ddedfrydu i gyfnod yn y carchar am stelcian cyn-gyflwynydd BBC Breakfast, Louise Minchin, a'i merch.
Roedd Carl Davies, 44, eisoes wedi pledio'n euog i stelcian Louise a Mia Minchin trwy yrru sylwadau bygythiol i'r ddwy ar Instagram a Snapchat ym mis Gorffennaf 2020.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar.
Mewn datganiad, dywedodd Louise Minchin nad oedd hi'n sicr y byddai hi na'i theulu fyth yn teimlo'n ddiogel eto.
Clywodd y llys bod Davies, sydd yn byw ar Queens Avenue, yn dioddef o gyflwr PTSD nad oedd wedi ei drin yn dilyn cyfnod yn Afghanistan yn 2008.
Dywedodd y Barnwr Nicola Saffman wrth Davies: "Mae pawb wedi clywed y sylwadau graffig ac annifyr y gwnaethoch eu hanfon at Louise Minchin a'i merch.

Treuliodd Louise Minchin gyfnod o 20 mlynedd ar BBC Breakfast
"Mae eich dioddefwyr yn dal i brofi gofid dwys," meddai wrth Lys y Goron yr Wyddgrug.
"Mae'n amlwg roedden nhw'n credu y byddech chi'n gwireddu eich bygythion oherwydd pa mor fanwl oedd y negeseuon."
Cafodd Davies ei ddedfrydu i gyfnod o garchar wedi'i ohirio yn y gorffennol am stelcian aelod o'r band Girls Aloud, Nicola Roberts.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021