A465: Llywodraeth Cymru wedi talu £45m mewn iawndal

  • Cyhoeddwyd
a465
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y cynllun i ddeuoli rhan sylweddol o'r A465 yn 2002, a bydd y prosiect cyfan yn costio oddeutu £800m

Mae Llywodraeth Cymru wedi talu £45m mewn iawndal i bobl y cafodd eu tir ei effeithio gan waith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.

Fe wnaeth ffigyrau a ddatgelwyd mewn ateb i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru ddangos bod un o'r rhai wnaeth hawlio arian wedi derbyn mwy na £10m.

Mae'r cynllun i ehangu'r A465 i fod yn ffordd ddeuol o Sir Fynwy i Gastell-nedd Port Talbot yn mynd rhagddo ers 2002, ac mae disgwyl i'r prosiect cyfan gostio £800m.

Yn ôl Deddf Iawndal Tir 1973, fe gaiff tirfeddianwyr hawlio iawndal os yw gwerth eu tir neu eiddo wedi cael ei effeithio gan waith cyhoeddus.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod o leiaf 91 o bobl wedi hawlio arian ers y flwyddyn 2000. Y taliad lleiaf oedd £2.38, a'r un mwyaf oedd £10.7m.

O edrych ar y taliadau fesul bob rhan o'r ffordd:

  • Rhan 1: Y Fenni i Gilwern - £7.5m;

  • Rhan 2: Gilwern i Fryn-mawr - £4.5m;

  • Rhan 3: Bryn-mawr i Dredegar - £4.5m;

  • Rhan 4: Tredegar i Ddowlais Top - £14.8m;

  • Rhannau 5 a 6: Dowlais Top i Hirwaun - £13.4m.

Mae'r gwaith ar y rhan olaf rhwng Dowlais Top a Hirwaun yn dal i fynd rhagddo ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn 2025.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae iawndal i unigolion a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan gynlluniau ffyrdd yn cael ei dalu yn unol â chyfundrefnau statudol ac fel arfer yn seiliedig ar gyngor pobl broffesiynol sy'n cynrychioli'r bobl dan sylw."

Pynciau cysylltiedig