Cyfyngiadau: Pryder ar y ffin am golli cwsmeriaid i Loegr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gweithwyr lletygarwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfyngiadau Covid-19 ychwanegol eu cyflwyno yng Nghymru ar 26 Rhagfyr yn sgil lledaeniad Omicron

Mae rhai busnesau Cymreig ger y ffin yn poeni am golli cwsmeriaid i fusnesau yn Lloegr yn sgil cyfyngiadau Covid newydd Cymru.

Tra bod rheolau newydd ar gymdeithasu yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd cyfyngiadau pellach yn dod i rym yn Lloegr.

Mae rhai busnesau'n poeni y bydd cwsmeriaid yn dewis gwario eu harian ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Lloegr, yn enwedig ar nos Galan.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod rheolau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel.

'Ofni fydd hi'n dawel'

Mae rhedeg busnes ger y ffin yn "reit rhyfeddol" ar hyn o bryd, yn ôl cadeirydd Saith Seren, tafarn a chanolfan Gymraeg Wrecsam.

"Mae 'na gymaint o bobl o Wrecsam fydd yn mynd yn draw at Groesoswallt neu Gaer i ddathlu nos Galan," meddai Chris Evans.

Ychwanegodd bod cefnogwyr tîm pêl-droed Wrecsam "mewn sefyllfa rhyfeddol iawn, lle dydyn nhw ddim yn cael cefnogi yn y Cae Ras ond yn cael mynd ar fws" i gefnogi'r tîm oddi cartref yn Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd Saith Seren yn Wrecsam, Chris Evans, yn poeni y bydd cwsmeriaid yn mynd i Gaer ar Nos Galan

"Dw i'n gobeithio fydd pobl yn dal i ddod allan, ond yn ofni falle fydd hi'n dawel iawn.

"Dw i'n gwybod o'r cyfnodau clo eraill bod 'na rai sy'n anfodlon i wisgo mwgwd.

"Bydd rhai dal yn dod ond dwi'n gwybod am rai eraill fydd ddim.

Ychwanegodd y byddai'n "drychinebus" pe bai'r sefyllfa'n parhau tan mis Chwefror, gyda'r busnes eisoes wedi canslo digwyddiadau cyn y Nadolig ac ym mis Ionawr.

Dywedodd fod y busnes "lawr ymhell dros 50%" yn ariannol o ganlyniad.

'Problem parhaus'

"Mae'r gwahaniaeth rhwng y rheolau rhwng gwledydd yn broblem parhaus", yn ôl Jess Hope-Jones, perchennog siop hufen ia yn Y Gelli Gandryll.

"Rydyn ni'n cael trafferth am ein bod ni mor agos at y ffin, mae hi'n ddryslyd.

Ffynhonnell y llun, Billie Charity
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwahaniaeth rhwng rheolau Cymru a Lloegr yn "ddryslyd" ar y ffin, medd Jess Hope-Jones

"Un peth sydd wedi digwydd i ni trwy'r pandemig yw gorfod esbonio, 'rwyt ti yng Nghymru nawr'.

"Mae pobl wedi cael digon o'r cyfyngiadau, a'r ffaith nad oes angen gwisgo mwgwd a'r holl bethau hyn dwy filltir i ffwrdd."

Er bod y cyfyngiadau'n caniatáu i'r siop aros ar agor, dywedodd eu bod yn cyfyngu ar nifer y bobl sy'n cael bod yno ar yr un pryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Finlay o'r Fat Boar, bwyty a bar yn Yr Wyddgrug

Dywedodd Mark Finlay o'r Fat Boar, bwyty a bar yn Yr Wyddgrug, mai Nos Galan fyddai gwir prawf y sefyllfa.

"Rydyn ni wedi cael ambell sylw gan gwsmeriaid yn dweud y gwnawn nhw ddod fan hyn am bryd o fwyd ac wedyn mynd i Gaer i ddathlu go iawn, yn eu geiriau nhw.

"Mae'n eithaf rhwystredig, ond does dim llawer fedrwn ni ei wneud am hynny.

"Byddwn ni'n cyfri i lawr i'r flwyddyn newydd gydag ychydig llai o gyffro eleni."

'Cynnydd serth' yn sgil Omicron

Daeth cyfyngiadau Covid newydd i rym yng Nghymru ar 26 Rhagfyr yn sgil pryder am ledaeniad amrywiolyn Omicron.

Mae'r rheolau yn cynnwys 'rheol chwe pherson' mewn bwytai a thafarndai, ac ymbellhau cymdeithasol.

Dim ond 30 o bobl gall fynychu digwyddiadau dan do, a 50 o bobl tu allan.

Yn ogystal, mae clybiau nos wedi cau.

Yn y cyfamser, does dim cyfyngiadau pellach wedi eu cyflwyno yn Lloegr.

Ddydd Mawrth, cafodd y gyfradd achosion uchaf erioed ei chofnodi yng Nghymru, ac fe gafodd dros 12,000 achos newydd eu cofnodi o fewn cyfnod 48-awr.

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod Omicron yn achosi "cynnydd serth" mewn achosion, fel y rhagwelwyd.

"Mae'n rhaid i ni gyd wneud popeth y gallwn ni i ddiogelu'n hunain ac i gadw Cymru'n ddiogel," meddai Llywodraeth Cymru.

"Mae Cymru ar Lefel Rhybudd 2 - mae mesurau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn helpu i fusnesau barhau i fasnachu, ac mae cyngor newydd er mwyn helpu pobl i aros yn ddiogelu yn eu cartrefi."