'Anodd gweithredu'r cyfyngiadau newydd'
- Cyhoeddwyd
Dywed rhai perchnogion busnesau ei bod hi'n anodd gweithredu y cyfyngiadau Covid diweddaraf gan nad yw rhai cwsmeriaid yn ymwybodol o'u bodolaeth tra bod eraill wedi cadw draw.
Ers 26 Rhagfyr mae rheol ymbellhau cymdeithasol wedi dychwelyd, ynghyd â'r gorchymyn i wisgo mwgwd, rheolau gweini wrth fwrdd ac olrhain cysylltiadau.
Yn ogystal mae grwpiau wedi cael eu cyfyngu i uchafswm o chwech er mwyn atal lledaeniad amrywiolyn Omicron.
Dywed un perchennog bar bod gweithredu'r cyfyngiadau newydd wedi bod yn "hunllef" gan nad yw llawer o bobl yn ymwybodol o'u bodolaeth.
"Dyw llawer o bobl ddim yn ymwybodol bod yna reolau newydd," medd Joann Cooney, perchennog The Irish yn Llandudno.
"Mae wedi bod yn 'chydig o hunllef yn rheoli pobl ac yn sicr dyw hi ddim wedi bod mor brysur ag arfer."
'50% yn llai o bobl ar Ŵyl San Steffan'
"Fel arfer mae Dydd San Steffan yn ddiwrnod da - pawb yn siarad wrth y bar ond doedd dim modd i hynna ddigwydd eleni. Roedd y cyfan yn eithaf anodd.
"Roedd ryw 50% yn llai o gwsmeriaid - fel arfer mae'n eitha prysur gyda cherddoriaeth fyw - awyrgylch wych."
Dywed Ms Cooney ei bod hi'n credu fod llawer o bobl wedi aros adref am eu bod ofn yr amrywiolyn newydd Omicron.
"Mae gwasanaeth wrth fwrdd yn lot o waith ychwanegol a hynny heb arian ychwanegol," medd Dai Beynon, perchennog Clwb y Gweithwyr ym Mhontarddulais.
Mae'n credu bod clybiau fel hyn angen mwy o staff er mwyn darparu gwasanaeth bwrdd a darparu gwasanaeth olrhain.
Ychwanegodd fod pawb yn y diwydiant lletygarwch "yn gwneud eu gorau i gadw trefn a sicrhau rheol dau fedr ond mae fel petaent yn cael eu herlyn dro ar ôl tro".
Wrth gyhoeddi'r cyfyngiadau newydd wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog bod yn rhaid eu cyflwyno yn sgil lledaeniad sydyn yr amrywiolyn newydd Omicron sy'n hynod o heintus.
Dangosodd y data diwethaf ar ddydd San Steffan bod 5,000 yn rhagor o achosion a thair marwolaeth a chofnodwyd 304 achos newydd o'r amrywiolyn Omicron.
Dywed Phil Ash sy'n cynrychioli tafarnwyr yn ardal Conwy bod y rheolau diweddaraf yn annheg.
"Rwy'n eu derbyn ond mae'n teimlo ein bod wedi cael ein taro'n galetach na gweddill cenhedloedd y DU unwaith eto," meddai.
Dywedodd Mr Ash hefyd ei bod yn gynyddol anoddach gweithredu'r cyfyngiadau newydd.
Ddydd Llun dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU na fydd mwy o reolau Covid yn Lloegr tan y flwyddyn newydd ond rhybuddiodd Sajid Javid bawb i "fod yn wyliadwrus".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod £120m ar gael i glybiau nos a'r diwydiannau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth yn sgil y cyfyngiadau newydd.
Ond dywed Mr Ash bod yr arian, o bosib, yn rhy hwyr gan fod busnesau angen cefnogaeth nawr.
"Fe fydd o gymorth pan gawn ni e ond fyddwn ni ddim yn cael yr arian tan ddiwedd Ionawr - dyw hwnna ddim yn helpu colledion mis Rhagfyr.
"Hefyd 'dan ni ddim yn gwybod sut mae pethau'n mynd i fod rhwng nawr a chael yr arian ddiwedd Ionawr," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021