Difa gwiwer wedi iddi 'ymosod ar 18 person' yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
GwiwerFfynhonnell y llun, Corinne Reynolds
Disgrifiad o’r llun,

Ymosododd y wiwer ar drigolion tref Bwcle dros gyfnod o ddau ddiwrnod

Mae gwiwer lwyd wnaeth ymosod ac anafu 18 o bobl mewn tref yn Sir y Fflint wedi cael ei dal a'i difa.

Dechreuodd yr anifail ymosod ar drigolion tref Bwcle'r wythnos ddiwethaf dros gyfnod o ddau ddiwrnod.

Dywedodd Corinne Reynolds, 65, sy'n byw yn y dref, bod y wiwer wedi dod mewn i'w gardd i ddwyn bwyd adar i ddechrau, ac mi ddaeth yn ymwelwr cyfeillgar.

Dechreuodd Mrs Reynolds fwydo'r wiwer ym mis Mawrth.

"Ers misoedd, mae hi wedi bod yn iawn," meddai. "Byddai hyd yn oed yn dod i dynnu cneuen allan o fy llaw."

Ond dywedodd Mrs Reynolds yr wythnos ddiwethaf newidiodd rhywbeth. Brathodd y wiwer hi wrth iddi ei bwydo yn yr ardd, ac yna fe welodd hi adroddiadau o frathiadau ac ymosodiadau eraill ar dudalen Facebook y dref.

Fe gafodd y wiwer enw newydd gan drigolion eraill Bwcle - Stripe - ar ôl cymeriad o'r ffilm Gremlins.

"Ar ôl i fi weld yr holl luniau o bobl wedi'u hanafu, meddyliais, 'Nefi bliw, beth sy' 'di digwydd iddi?'"

Penderfynodd fod angen gweithredu.

"Achos o'n i'n ei hadnabod, o'n i'n gwybod mod i'n debygol o allu ei dal," meddai.

Ffynhonnell y llun, Corrine Reynolds
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Corinne Reynolds i ddal y wiwer yn ei gardd

"Nes i ond adael y trap ger yr ardal lle roeddwn i'n aml yn bwydo hi am 20 munud, ac roedd hi mewn."

"O'n i'n teimlo ei bod yn ymddiried ynddo i, a nes i fradychu hi," meddai Mrs Reynolds, sy'n aml yn edrych ar ôl adar sydd wedi eu hanafu, fel gwylanod, tan eu bod nhw'n gallu cael eu rhyddhau.

"Dwi'n caru anifeiliaid; mae fy ngardd fel gwarchodfa ar gyfer adar. Ond dwi'n gwybod nes i'r peth cywir. Mae gen i ŵyr dwy flwydd oed, os fyddai hi wedi brathu fe ar y bys, gallai wedi ei golli."

Dywedodd un fenyw fod y wiwer wedi ymosod arni wrth iddi gasglu ei biniau ailgylchu, ac fe ddisgrifiodd un arall ar gyfryngau cymdeithasol sut y bu'n rhaid iddi gael pigiad tetanws ar ôl cael ei brathu.

Ffynhonnell y llun, Corrine Reynolds
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Corrine Reynolds ei brathu gan y wiwer

Yn ôl y gyfraith, does dim hawl rhyddhau gwiwerod llwyd sydd wedi cael eu dal yn ôl i mewn i'r gwyllt.

Cymrodd y RSPCA y wiwer ar ôl iddi gael ei dal gan Mrs Reynolds, ond ar ôl cael ei hasesu cafodd ei difa gan filfeddyg.

"Rwy'n teimlo'n drist bod y wiwer wedi colli ei bywyd," meddai Mrs Reynolds, "ond doedd dim byd arall roeddwn i'n gallu gwneud.

"Roedd y dinistr achosodd hi'n anghredadwy."

Pynciau cysylltiedig