'Angen talu grantiau lletygarwch yn llawer cynt'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Byrddau gwag tu allan i far Juniper Place Caerdydd ddydd Gŵyl San SteffanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byrddau gwag tu allan i far Juniper Place Caerdydd ar ddiwrnod cyntaf y cyfyngiadau diweddaraf

Mae'n rhaid i grantiau ar gyfer busnesau lletygarwch sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid gael eu talu "llawer yn gyflymach" nag yn y gorffennol, yn ôl perchennog bar.

Bydd modd i fusnesau ymgeisio am gymorth o ganol mis Ionawr.

Fe fydd taliadau yna'n cyrraedd busnesau o fewn diwrnodau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd perchennog sawl bar a chlwb yng Nghaerdydd, Nick Newman, nad yw taliadau'n cael eu prosesu'n ddigon cyflym.

Fe fydd grantiau gwerth rhwng £2,500 a £25,000 yn cael eu talu o'r Gronfa Cadernid Economaidd, sy'n werth £120m, ar gyfer diwydiannau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.

Bydd modd ymgeisio am y grantiau dros gyfnod o bythefnos o 17 Ionawr.

Fe fydd maint y grant yn dibynnu ar faint y busnes a'r nifer o weithwyr sydd ganddo.

Gall ymgeiswyr wirio a ydyn nhw'n gymwys am grant ar-lein nawr.

Dywedodd y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, ei fod yn cydnabod fod busnesau yn wynebu "amser andros o ansicr" ac y byddai medru gwirio a ydyn nhw'n gymwys ar-lein yn helpu iddyn nhw "gynllunio o flaen llaw yn ystod y cyfnod heriol hwn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "gwir ddealltwriaeth o sawl sector" wrth ddosbarthu grantiau, medd Nick Newman

Fe fydd cynllun ar wahân gan awdurdodau lleol yn cynnig taliadau o £2,000, £4,000, neu £6,000 i fusnesau, ar sail eu gwerth trethiannol.

Bydd modd cofrestru ar gyfer y cynllun hwn o 10 Ionawr.

Hefyd ar 10 Ionawr, bydd modd i unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi geisio am grant o £500, a gall busnesau na sy'n talu ardrethi busnes ymgeisio am grant o £2,000.

Awdurdodau lleol fydd yn penderfynu ar y taliadau hynny.

Dywedodd Mr Newman, sydd yn cadeirio Fforwm Trwyddedigion Caerdydd: "Dyw cynlluniau tebyg ddim wedi bod mor gyflym ag y gallen nhw.

"Mae busnesau wedi mynd i'r wal er gwaethaf cymorth blaenorol gan Lywodraeth Cymru ac eraill.

"Mae'n un peth i siarad am symiau o arian sydd yn swnio'n sylweddol, ond mae'n rhaid i ni gael rhifau cadarn.

"Mae angen gwir ddealltwriaeth o sawl sector bydd yr arian hwn yn cyrraedd, a beth fydd mewn gwirionedd yn dod i'n cyfrifon banc ni, oherwydd tan nawr dyw e ddim wedi bod yn ddigon na'n ddigon cyflym."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "y mwyafrif o fusnesau ar agor ac yn gallu masnachu" er bod mesurau Lefel Rhybudd 2 mewn grym mewn ymateb i ledaeniad amrywiolyn Omicron.

Ond ychwanegodd bod y weinyddiaeth "yn gwybod y bydd y mesurau ychwanegol hyn yn cael effaith ar fusnesau" gan arwain at becyn cymorth ychwanegol gwerth £120m ar gyfer y cyfnod rhwng 13 Rhagfyr a 14 Chwefror 2022.