Un adroddiad wedi cynghori cyfnod clo llawn ar ôl y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Merch yn cerdded lawr stryd sy'n llawn siopau wedi cau ym Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp TAC yn modelu sut mae cyfyngiadau gwahanol yn gweithio

Dywedodd gwyddonwyr wrth Lywodraeth Cymru y byddai cyfnod clo llawn am bythefnos wedi'r Nadolig eleni wedi cael effaith ar leihau achosion Covid-19 yng Nghymru.

Ond fe ddiweddarodd y Gell Cyngor Technegol (TAC) eu cyngor ddeuddydd yn ddiweddarach.

Cyhoeddodd TAC, sy'n edrych ar ddata ac sy'n amcangyfrif nifer yr achosion Covid, un papur ar gyfer gweinidogion ar 15 Rhagfyr.

Gyda'r amrywiolyn Omicron eisoes yn achosi pryder mawr, ysgrifennodd yr arbenigwyr y byddai cyflwyno cyfyngiadau lefel 4 am bythefnos o 27 Rhagfyr yn cael "effaith arwyddocaol ar leihau brig yr achosion".

Cynghorodd yr adroddiad yn erbyn gweithredu cyfyngiadau llai difrifol i leihau effaith Omicron.

Fe wnaeth y cabinet Cymreig gyfarfod ddwywaith y diwrnod canlynol, a chyhoeddon nhw 24 awr yn ddiweddarach y byddai clybiau nos yn cau ar ôl y Nadolig.

Cafodd cyfyngiadau pellach, yn debyg i Lefel Rhybudd 2, eu cyhoeddi pum diwrnod yn ddiweddarach.

Ond awgrymodd ail adroddiad gan TAC, a gyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr, y byddai'r gwahaniaethau rhwng cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 a chyfnod clo llawn yn llai os fyddai cyfyngiadau ond mewn lle am bythefnos.

Os fyddai cyfyngiadau mewn lle am bedair wythnos, byddai cyfnod clo llawn wedi cael mwy o effaith.

'Cost uchel'

Pwysleisiodd yr adroddiad y byddai cyfnod clo am bythefnos "heb fawr o fudd ond â chost uchel".

Am bythefnos o gyfyngiadau, awgrymodd y modelu y byddai cyfnod clo llawn ond yn gohirio brig yr heintiadau i ddyddiad hwyrach, o gymharu â chyfyngiadau Lefel Rhybudd 2.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr ail adroddiad na fyddai cyfnod clo am bythefnos yn gwneud llawer o wahaniaeth o gymharu â chyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi mynnu eu bod yn "dilyn y wyddoniaeth" wrth wneud penderfyniadau ar gyfnodau clo a chyfyngiadau eraill.

Mae adroddiad 17 Rhagfyr yn pwysleisio, hyd yn oed heb gyflwyniad cyfyngiadau newydd gan y llywodraeth, "bod pob sefyllfa'n amcangyfrif y bydd brig yr achosion yn mynd tu hwnt i frigau blaenorol er gwaethaf yr amddiffynfeydd a weithredwyd ar gyfer y boblogaeth.

"Mae yna uchafswm o 11,000 i 24,000 o achosion dyddiol wedi eu hamcangyfrif (41,000 i 65,000 o heintiadau).

"Mae hyn yn debygol iawn o roi pwysau ar y system wrth feddwl am y nifer uchel o absenoldebau oherwydd salwch."

'Wastad yn dilyn y cyngor diweddaraf'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Trwy gydol y pandemig mae ein dull o weithredu wedi cael ei ddylanwadu ar gan y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf.

"Mae'r gweithredoedd cymron ni yn y cyfnod cyn y Nadolig, pan oedd yr amrywiolyn Delta dal i fod yn yr amrywiolyn amlycaf, a'n syth ar ôl pan gynyddodd yr achosion Omicron, wedi cael eu dylunio i gadw ni'n ddiogel a'n hamddiffyn.

"Wrth ymateb i'r pandemig, rydyn ni wastad wedi ceisio cydbwyso niwed sy'n ymwneud a Covid a niwed sydd ddim, mewn sefyllfa sy'n gallu newid yn gyflym. Mae'r cyngor gwyddonol diweddaraf yn parhau i liwio ein hymateb i gadw Cymru'n ddiogel."