Rhybudd am deithio dros y ffin i ddathlu'r flwyddyn newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Merfyn Parry, perchennog tafarn yn Llandyrnog: 'Fydd dathlu nos Galan ddim r'un fath yma heno'

Mae'r Prif Weinidog wedi rhybuddio y dylai pobl "ystyried yn ofalus" wrth feddwl am deithio dros y ffin i Loegr i ddathlu'r flwyddyn newydd.

Ond nid yw Mark Drakeford wedi mynd mor bell â dweud wrth bobl am aros yng Nghymru.

Yn wahanol i Loegr, all grwpiau o ddim mwy na chwech o bobl gwrdd mewn tafarndai, sinemâu a bwytai.

Mae clybiau nos hefyd wedi cau yng Nghymru, tra bod y rheol pellter cymdeithasol dau fetr wedi dychwelyd i fannau cyhoeddus.

Yn yr Alban, mae'r Prif Weinidog Nicola Sturgeon wedi galw ar bobl i beidio teithio dros y ffin ar gyfer y dathliadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Weinidog wedi rhybuddio pobl i "feddwl yn ofalus" wrth wneud cynlluniau ar gyfer Nos Galan

Dywedodd Mr Drakeford: "Os ydych yn teithio, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud prawf llif unffordd cyn mynd a meddyliwch am y bobl y byddwch chi'n cymysgu â nhw pan fyddwch yn dychwelyd."

"Mae'n well gadael i bobl wneud penderfyniadau dros eu hunain gymaint ag sy'n bosib," meddai.

"[Mae angen] gwneud hynny mewn ffordd sy'n ystyried y risgiau sydd yno, sut allwch chi warchod eich hunain, y goblygiadau a allai fod i chi ac eraill ac yna gwneud dewis gwybodus ynglŷn ag a yw hynny'n risg gwerth ei gymryd yn eich bywyd."

Daw'r rhybudd wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi roedd dros 21,000 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru dros gyfnod o ddeuddydd.

Canol y dref 'fel y bedd'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lynda Leigh nad ydy hi erioed wedi gweld hi mor dawel yng nghanol Y Fflint ar brynhawn olaf y flwyddyn

Yn ôl Lynda Leigh, sy'n rhedeg tŷ tafarn y George and Dragon yng nghanol Y Fflint roedd y dref "fel y bedd" brynhawn Gwener.

"Fel arfer fysan ni'n llawn hyd yn oed yn y prynhawn cyn Nos Galan ond dydw i erioed wedi bod mor dawel â hyn," meddai.

"Mae'r cyfyngiadau presennol yn golygu bod rhaid i ni gael mwy o staff i weini wrth y byrddau ond 'dan ni'n bell o fod yn llawn.

"Mae'r rheol chwe pherson yn lladd ein busnes - mae gyda ni deuluoedd mawr sydd eisiau dathlu gyda'i gilydd.

"Rwy'n clywed bod pobol wedi llogi bysiau mini i fynd i Gaer - pobol all fod yn dod i fan hyn.

"Dwi'n nabod pobol sy' jest yn aros adref oherwydd yr holl bethau negatif maen nhw'n ei weld ar y newyddion."

Y benbleth i dafarnwyr y ffin

Dywedodd Chelly Jones, o'r Stanton House Inn yn Y Waun, Wrecsam, fod y dafarn yn ei chael hi'n anodd oherwydd y gwahanol gyfyngiadau.

Dim ond cerdded milltir i fyny'r ffordd y mae'n rhaid i bobl sydd eisiau parti fynd, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark a Chelly Jones bod cyfyngiadau coronafeirws llym yng Nghymru wedi "lladd" elw'r Nadolig

Dywedodd Mrs Jones, sy'n rhedeg y dafarn gyda'i gŵr Mark, fod busnes dros y Nadolig wedi bod yn "drychinebus".

"Mae'n bendant oherwydd y gwahanol gyfyngiadau yng Nghymru a Lloegr," meddai.

"Mae yna dafarn ychydig oddi wrthym ni sy'n gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau ar Nos Galan.

"Rydyn ni yng nghanol lle maen nhw'n gallu partïo ac allwn ni ddim."

Yn y cyfamser, dywedodd y Bridge Inn, nepell o'r Waun ond dros y ffin yn Lloegr, eu bod yn gobeithio atal rhuthr o gwsmeriaid o Gymru trwy werthu tocynnau i'w dathliadau Nos Galan.

Dywedodd y gweithiwr tafarn, Sian Roberts, fod pobl leol wedi dweud wrthi eu bod yn "poeni" am y mewnlifiad disgwyliedig o gwsmeriaid o Gymru.

Pynciau cysylltiedig