Galw am 'well amrywiaeth' yn etholiad cyngor lleol 2022

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Nia Jeffreys: 'Mae angen mwy o falans ar gynghorau lleol Cymru'

Mae yna alw am wella amrywiaeth ymgeiswyr wrth edrych ymlaen i etholiadau lleol Cymru ym mis Mai.

Yn yr etholiad diwethaf yn 2017, dim ond tua chwarter y cynghorwyr lleol yng Nghymru oedd yn fenywod.

Mae un o gynghorwyr sir Gwynedd yn arwain ymgyrch i annog rhagor o fenywod, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl ifanc i ymgeisio i fod yn gynghorwyr.

Mae'r Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys, sy'n cynrychioli ward Dwyrain Porthmadog, hefyd yn Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd: "Yn enwedig dw i'n meddwl mewn llywodraeth leol, mae o mor bwysig bod llais merched, pobl o lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o hiliau gwahanol yn cael eu clywed.

"Dw i'n meddwl bod y pandemig 'di gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig ydy llywodraeth leol - 'dan ni'n gyfrifol am addysg, cartrefi gofal, bob math o bethau.

"Felly mae'n hynod o bwysig mai nid dim ond canran bach o'r gymdeithas, sef dynion hŷn, gwyn - mai nid jyst eu lleisiau nhw sy'n cael eu clywed ac sy'n dylanwadu ar penderfyniadau, ond bod lleisiau gwahanol, lleisiau merched ac yn y blaen, hefyd yn cael eu clywed."

Ffynhonnell y llun, Daniel R Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd etholiadau cynghorau lleol Cymru'n cael eu cynnal ym mis Mai 2022

Ychwanegodd y Cynghorydd Jeffreys ei bod yn "obeithiol iawn" y bydd mwy o ferched yn ymgeisio i fod yn gynghorydd lleol eleni.

"Dydy lot o bobl ddim yn sylweddoli, mae yn swydd eithaf hyblyg. Fedrwch chi fod yn ateb e-byst am ddeg o'r gloch y nos ar ôl i'r plantos fynd i'r gwely er enghraifft," eglurodd.

"Hefyd, y mwya' 'dan ni'n defnyddio cyfarpar Zoom a phethau fel 'na, 'dan ni'n sylwi pa mor hyblyg yw swydd cynghorydd a bod modd ei wneud o adra.

"Felly gobeithio neith yr anogaeth 'ma weithio a bydd merched yn rhoi enwau ymlaen achos mae hynny er lles democratiaeth ac er lles ni i gyd, 'swn ni'n ddeud."

'Yn ogystal â'r hen ben, mae angen lleisiau ifanc'

Dywedodd y Cynghorydd Jeffreys ei bod yn "ddigon posib" y dylai rhai o'r cynghorwyr hŷn sy'n ddynion ymddeol er mwyn "gwneud lle i'r to ifancach ac i ferched".

Ond ychwanegodd bod "llawer o ddynion wedi gwneud swydd dda iawn a rhoi lot i'w cymunedau".

"Be dw i'n alw am ydy ca'l mwy o falans. Felly yn ogystal â'r hen ben, cael lleisiau pobl ifanc, lleisiau merched a phobl o wahanol grwpiau ethnig."

Yn ôl y Cynghorydd Jeffreys, mae'n bosib y bydd angen "gwneud mwy nag annog" os nad oes rhagor o amrywiaeth yn yr ymgeiswyr yn etholiadau llywodraeth leol 2022.

Dywedodd: "Ma' anogaeth yn un peth, a dw i'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gwneud y gwaith anogaeth ma rŵan ers degawdau i fod yn onest.

"Gawn ni weld ffigurau Mai 2022, ond os oes 'na ddim mwy o bobl o wahanol gefndiroedd a mwy o ferched yn dod ymlaen, ydy hi'n amser i Llywodraeth Cymru ddechrau meddwl am newid strwythurol?

"Ma' 'na lawer o bethau dw i'n meddwl fasa angen edrych ar fel rhyw becyn cynhwysfawr i'r newid ma' yn strwythurol, yn strategol...

"Ma'r anogaeth ma' a'r petha' meddal ma' i gyd yn bwysig ac i gyd yn cael dylanwad, ond os ydan ni isio newid go iawn, dw i'n credu fydd rhaid sbio ar rai o'r petha' mwy strwythurol 'ma."