Chwaraewyr Cymru o blaid cynnal gemau Chwe Gwlad yn Lloegr
- Cyhoeddwyd

Mae Louis Rees-Zammit wedi dweud ei fod o blaid cynnal gemau yn Lloegr gyda thorf
Mae chwaraewyr rygbi rhyngwladol presennol ac o'r gorffennol wedi cefnogi chwarae gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Lloegr.
Ddydd Mercher dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod chwarae gemau gartref dros y ffin yn cael ei ystyried oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Fore Iau, dywedodd cyn-ganolwr Cymru, Tom Shanklin, ei fod yn "opsiwn da" ac y byddai'n "o blaid hynny'n llwyr".
Ar Twitter, mae dau aelod o'r garfan bresennol, yr olwyr Louis Rees-Zammit a Josh Adams, hefyd wedi lleisio eu cefnogaeth.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd y rheolau ar gyfer digwyddiadau chwaraeon eu newid gan Lywodraeth Cymru ddiwedd Rhagfyr.
Mae'n golygu nad yw torfeydd yn cael gwylio gemau, gyda'r cyfyngiadau'n berthnasol i bob digwyddiad dan do, awyr agored, proffesiynol a chymunedol.
Fe fydd adolygiad o'r rheolau yr wythnos hon, ond nid oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer newid y cyfyngiadau ar hyn o bryd.
Mae disgwyl i Gymru ddechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad ar 5 Chwefror, gyda'r gêm gartref gyntaf i'w chynnal ar 12 Chwefror.

Pwysleisiodd Tom Shanklin cyfraniad y dorf at greu'r awyrgylch mewn gemau pwysig
Dywedodd Shanklin, cyn-ganolwr a chwaraeodd dros Gymru 70 o weithiau, y byddai o blaid cynnal gemau Cymru yn Lloegr gyda thorf.
"Os na allan nhw chwarae yn Stadiwm Principality, yna dwi'n meddwl ei fod yn opsiwn da oherwydd alla' i ddweud nawr - dwi wedi bod i bob un o'r gemau heb dorf, ac mae'n ddienaid", meddai ar BBC Radio Wales.
"Mae trio creu atmosffer yna, mewn gêm mor fawr ac mor bwysig, ar ddiwedd y dydd mae'r dorf yn gallu chwarae rhan fawr yn hynny..."
"Ac os yw Lloegr yn cael torfeydd, yna fe fydd hynny ond yn gweithio o'u plaid nhw."
Ychwanegodd: "Felly os yw'r opsiwn o gael torfeydd yn Lloegr ar gael i Undeb Rygbi Cymru, bydden i o blaid hynny'n llwyr."
Wrth ymateb i'r stori ar Twitter, dywedodd asgellwr presennol Cymru, Louis Rees-Zammit, bod rygbi yn "ddim byd heb gefnogwyr", gan ychwanegu: "Gwnewch i hyn ddigwydd!"
Ategu hynny wnaeth ei gyd-chwaraewr i Gymru, Josh Adams, a ddywedodd ei fod yn cytuno.
Mae disgwyl i Gymru ddechrau eu hymgyrch yn y bencampwriaeth yn Nulyn ar 5 Chwefror, gyda'r gemau'n cael eu cynnal dros bum wythnos.
Roedd yn rhaid i Gymru chwarae gemau'r bencampwriaeth y llynedd heb dorf hefyd, ond daeth hyd at 74,000 o bobl i'w gwylio yng ngemau prawf yr hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021