David Brooks: Dyfodol yn 'addawol' wedi triniaeth canser

  • Cyhoeddwyd
David BrooksFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae'r dyfodol yn edrych yn "addawol ac yn bositif" i bêl-droediwr Cymru, David Brooks, sy'n derbyn triniaeth am ganser ar hyn o bryd.

Cafodd Brooks, sy'n 24, ddiagnosis o Lymffoma Hodgkin ym mis Hydref.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd chwaraewr canol cae Bournemouth ei fod wedi cyrraedd hanner ffordd yn y driniaeth.

"Mae'n mynd yn dda ac mae'r dyfodol yn edrych yn addawol ac yn bositif," meddai.

Diolchodd i bawb wnaeth gysylltu yn dilyn y diagnosis, gan ddweud bod y gefnogaeth wedi bod yn "anghredadwy".

"Dwi'n cadw cysylltiad gyda phawb yn Bournemouth a'r tîm cenedlaethol ac yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous i'r tymor gyda fy nghlwb a fy ngwlad."

Mae Brooks wedi chwarae 21 o weithiau i Gymru, gan gynnwys tair gwaith yn Euro 2020 llynedd.

Chwaraeodd ei gem ddiwethaf i Bournemouth yn erbyn Peterborough ar 29 Medi.