Y côr sy'n serennu ar Netflix
- Cyhoeddwyd
Er bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i gorau ar draws y wlad gynnal ymarferion a pherfformiadau, dydy un côr o'r gogledd heb stopio.
Mae Côr Meibion Johns' Boys, sydd wedi'i leoli yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, wedi cael blwyddyn anhygoel, gan gynnwys perfformio yn Proms y BBC. Ac nawr mae'r côr yn rhan o un o gynyrchiadau diweddaraf Netflix, sef drama ddirgel Stay Close, sy'n seiliedig ar nofel Harlan Coben o 2012.
Côr y Byd
Athro cerdd yng Nghroesoswallt yw Aled Philips, ond yn ei amser sbâr mae'n arwain un o gorau meibion mwyaf adnabyddus Cymru, ac o bosib y byd.
"Sefydlais i'r côr yn 2016, ac ers hynny, ni wedi cael llwyddiant ysgubol i ddweud y gwir," dywed Aled.
"Ers y dechrau, mae'r 32 aelod yn teithio o bell i gael bod yn rhan o'r côr. Rhai o ganolbarth Cymru, a rhai mor belled â Manceinion neu Lerpwl.
"Yn 2019, cawsom ein coroni fel Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen. Yn yr un flwyddyn enillon ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y llais unigol yng nghystadleuaeth Côr Cymru. Roedd hi'n flwyddyn anhygoel.
"Nid oes côr meibion o Gymru - a prin iawn ar draws y byd - wedi ennill teitl Côr y Byd yn Llangollen. Ar ôl ennill hynny, cawsom ein gwahodd ar draws y byd i ganu, mewn gwledydd fel Gwlad Pŵyl a Chanada, ond oherwydd y pandemig, ni ddigwyddodd y teithiau yma.
'Ydy hyn yn stitch up!?'
"Ym mis Mehefin 2021 anfonais i recordiad ohonom ni'n canu yng nghystadleuaeth Côr y Byd i Neflix, oedd ar y pryd yn chwilio am gôr meibion," dywed Aled.
"Ar ôl cwpl o wythnosau, ges i alwad ffôn, roedden nhw gyda diddordeb ynddo ni. Ond doedden nhw ddim yn rhannu llawer o wybodaeth, roedd popeth yn gyfrinachol iawn.
"Aethom ni fyny i recordio ar gyrion Manceinion, er mwyn sortio gwisgoedd a recordio'r sain.
"Cyrhaeddom ni erbyn chwech o'r gloch y bore i faes parcio gwag. Dwi'n cofio meddwl i fy hun, ydy hyn yn stitch up!?
"Ar ôl ychydig cawsom ein tywys i set arall gan geir a faniau du a chwrdd â'r cyfarwyddwr a'r actorion, yn cynnwys James Nesbitt.
"Treulion ni amser gyda'r actorion a pherfformio ein darn o flaen y camerâu ar gyfer y gyfres.
"Roedd hi'n brofiad hollol anhygoel!"
Mae'r côr yn cael ei gweld mewn theatr ar ddechrau pennod chwech a'r gân mae'r côr yn canu sy'n cael ei ddefnyddio ar ddiwedd pob pennod hefyd.
Ymarfer mewn ysgubor neu gae
"Oherwydd cyfyngiadau Covid doedd dim modd i ni ymarfer y darn o flaen y cyfarwyddwyr, cawson nhw gopi electronig o'r darn. Ar y pryd, roedd ein hymarferion i gyd arlein," eglura Aled.
"Ond wrth i'r rheolau lacio, roedd modd i ni ymarfer mewn cae neu ysgubor gan fod y tywydd mor braf ac yn olau tan yn hwyr. Roedd e'n hwyl yn enwedig gan mai hwn oedd y tro cyntaf i ni ymarfer a gweld ein gilydd mewn person ers misoedd.
"Aeth y recordiad ym Manceinion yn wych ac ar ôl yr ymarferion, sylweddolodd y cynhyrchydd nad oedden nhw gyda rhywun i chwarae rôl y capten.
"Gofynnon nhw i mi chwarae'r rôl ac un o'r gofynion oedd mynd ati i dyfu barf - dim ond wythnos cyn y recordiad!
"Ddos i nol yr wythnos ganlynol, gyda llond gên o wallt, dim ond iddyn nhw ofyn i fi shafio fo ffwrdd!"
Dyfodol y Johns' Boys
"Mae'r cyfyngiadau Covid diweddaraf wedi bod yn heriol, mae wedi bod yn anodd i ni ymarfer yng Nghymru gyda 32 aelod yn ein côr," medd Aled. "Felly symudon ni ein ymarferion i ochr arall y ffin, gan mai dim ond 30 sydd wedi bod yn gallu cwrdd o dan do yng Nghymru ers mis Rhagfyr.
"Ni'n edrych ymlaen at gystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru fis nesaf
"Mae llawer o bookings yn dechrau dod mewn ar gyfer gweddill y flwyddyn hefyd. Dwi'n gobeithio am sbel heb rwystrau a gallu ymarfer yn wythnosol!"
Ar ôl perfformio'n fyw am y tro cyntaf ers y pandemig ym mis Hydref, prysuro mae'r John Boys' unwaith eto wrth edrych ymlaen at 2022.