Tom Rhys Harries: Yr actor ar y brig ar Netflix
- Cyhoeddwyd
Llofruddiaeth, cyffuriau, trais a rhyw gydag ynys hedonistig Ibiza'n gefndir hardd i'r cyfan... mae'n deg i ddweud fod Tom Rhys Harries yn ymdrin ag amryw o themâu tywyll yn ei gyfres diweddara', y ddrama White Lines ar Netflix.
Ond yn ôl yr actor o Gaerdydd, dyw hynny ddim yn rhywbeth newydd: "Mae lot o gymeriadau dw i wedi chwarae a lot o brosiectau dw i wedi 'neud yn delio efo themâu tywyll.
"Dw i'n trio ffeindio cyfiawnhad am unrhyw weithred mae cymeriad ti'n cymryd, sy'n rooted mewn gwirionedd. Dw i'n trio dewis prosiectau sy'n denu pwnc eitha' anodd fel cyffuriau neu unrhyw fath o drais - ond ti'n trio dewis rhai sy'n delio gyda fe responsibly.
"Ti'n cael prosiect lle mae'r cynnwys yn eitha' tywyll - fi jyst yn trio ffeindio'r gwirionedd mewn pethau."
Ac mae'n amlwg fod ei ddewis o rôl wedi llwyddo tro 'ma - gyda miliynau o bobl o amgylch y byd wedi gwylio'r gyfres ddrama ers iddi gael ei rhyddhau ar Netflix ym mis Mai a'r sioe ar y brig mewn 25 gwlad ar y platfform ffrydio.
Mae'r profiad o fod yn seren un o sioeau mwya' poblogaidd Netflix wedi bod yn rhyfedd yn ystod y cyfnod clo, meddai Tom: "Mae'n ddiddorol tra bod ni mewn lockdown achos mae pobl yn watcho mwy o deledu.
"O'n ni'n rhif un am rhyw bythefnos a hanner.
"Ti'n saethu rhwbeth a ti ddim yn gwybod sut 'neith e fynd lawr a ti'n gobeithio 'neith pobl dderbyn e mewn ffordd da. Mae'n edrych fel bod nhw wedi, sy'n bositif.
Wyneb cyfarwydd
"Mae'n weird [cael dy 'nabod ar y stryd] - achos bod ni'n mynd mas lot llai yn y lockdown. O'n i mas yn siopa bwyd a 'nath tri neu bedwar person adnabod fi.
"Mae'n neis, os mae pobl yn neis."
Mae eisoes yn wyneb cyfarwydd ers ei ran mewn dramâu ITV Unforgotten a Jekyll and Hyde a'r ffilm Hunky Dory, yn ogystal â gwaith ar y llwyfan.
Dywedodd: "Dw i wedi 'neud lot o theatr ond dw i'n meddwl taw White Lines yw'r prosiect gyda'r proffil mwya' dw i wedi 'neud lle dw i'n chware rhan sylweddol.
"Ond nes i ffilm The Gentlemen gyda Guy Ritchie blwyddyn diwethaf - mae e'n institution o ran adloniant Prydeinig.
"Beth oedd yn ecsiting am weithio 'da Guy oedd bod e wedi bod yn 'neud ffilmiau Disney a stiwdio mawr am y degawd diwethaf a dyma oedd ei return i vintage Guy Ritchie à la Lock, Stock and Two Smoking Barrels am y tro cynta' ers sbel, oedd hwnna'n rili exciting i fi fod yn rhan o hwnna."
Uniaethu gyda'r cymeriad
Yn White Lines, mae Tom yn chwarae rhan cymeriad o'r enw Axel Collins, DJ sy'n symud i Ibiza yn y 1990au, yna'n diflannu nes iddo gael ei ddarganfod wedi'i gladdu yn yr anialwch yn Sbaen.
Dywedodd Tom: "Fi ddim yn DJ a fi ddim yn dod o Fanceinion ond dw i'n credu bod pawb yn gallu uniaethu 'da'r elfen yn Axel lle mae e'n gweithredu coping mechanism.
"Mae'r ffaith bod e'n berson self-destructive, o'n i'n awyddus i'w ddangos e yn ymdopi. Mae rhaid ti compartmentaleiddio y cymeriadau ti'n chwarae.
"Fi'n marw bron ymhob prosiect dw i 'di 'neud yn ddiweddar..!"
Un o heriau'r rhan oedd meistroli acen Manceinion: "Nes i gael hyfforddwr - bydden i ddim yn trystio fy hunan i drio 'neud simulation o acen Manceinion.
"Mae'n acen anhygoel, mae gymaint o punch a drive iddo fe. Nes i watcho lot o Liam a Noel [Gallagher] achos maen nhw'n poster boys o Manceinion y 90au. O'dd e'n lot o hwyl."
Uchafbwynt saethu'r gyfres i Tom oedd gweithio gyda chriw o actorion dawnus oedd yn cynnwys Daniel Mays, Laura Haddock, Angela Griffin a Laurence Fox.
Dywedodd: "Mae pawb yn rili lyfli, 'natho ni gyd dynnu 'mlaen. O'n ni'n saethu mas yn Ibiza, Majorca a Madrid yng nghanol haf dros chwe mis - pan o'n ni gyd yn gallu teithio - oedd yr environment ddim yn un anodd i ni dynnu 'mlaen.
"Ni gyd dal mewn cysylltiad ac ar grŵp Whatsapp."
Dylanwad diwylliant Cymru
Er ei fod bellach yn byw yn Llundain, mae'n ddiolchgar am ei fagwraeth Gymraeg, a'i ysbrydolodd i ddilyn gyrfa ym myd actio, meddai.
"Mae dod o gefndir Cymru Cymraeg yn rhan mawr o be' dw i'n 'neud nawr.
"O'n i 'di 'neud eisteddfodau pan o'n i'n fach - o'n i'n adrodd pan yn wyth, naw mlwydd oed.
"Mae diwylliant ni yng Nghymru yn un rili rich - mae perfformio yn rhan mawr o'n dylanwadau ni."
Ac mae yntau, fel nifer o Gymry alltud, yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r famwlad ar ôl i'r cyfyngiadau cymdeithasol godi:
"Fi'n gweld colli Cymru. Mae hiraeth tuag at gartre yn cynyddu tra bod fi'n mynd yn hŷn. 'Sa i 'di bod gartref ers Dolig a 'sa i wedi gweld Mam a Dad ers Dolig.
"Cymru yw gartref. Yr unig reswm dw i yn Llundain yw dw i'n gorfod bod 'ma ar gyfer gwaith.
"Os bydde modd i fi fod nôl yng Nghymru a chael y cyfleoedd dw i'n cael fan hyn, bydden i yng Nghymru. Mae'n wlad lot mwy pert na Lloegr!
Hefyd o ddiddordeb