Carcharu dyn am ladd gydag un ergyd ym Mhorthcawl
- Cyhoeddwyd

Christopher George, 27, o'r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae dyn 27 oed wedi ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am ladd dyn gydag un ergyd ym Mhorthcawl.
Bu farw Carl Chinnock, 50, deuddydd ar ôl cael ei ddarganfod gydag anaf difrifol i'w ben mewn maes parcio ym mis Mehefin.
Clywodd y llys ym mis Rhagfyr y disgynnodd Mr Chinnock a tharo'i ben ar y llawr yn dilyn un ergyd i'w wyneb gan Christopher George, o'r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd George wedi bod yn yfed gyda'i ffrindiau cyn mynd at Mr Chinnock a'i daro ym maes parcio Salt Lake ar 23 Mehefin.
Cafodd y dyn 50 oed ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, gydag anaf difrifol i'w ben, ble bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.
Cafwyd George yn euog o ddynladdiad gan reithgor ym mis Rhagfyr.
Doedd y ddau ddyn ddim yn adnabod ei gilydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021