'Braw' gweinidog ar ôl i sgamwyr ddefnyddio'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Gallai mwy o bobl gael eu twyllo wrth i sgamwyr ddefnyddio'r iaith Gymraeg, yn ôl gweinidog yn y gogledd-ddwyrain.
Ar ôl hacio e-bost y Parchedig Aled Lewis Evans fe anfonodd sgamwyr negeseuon yn Gymraeg yn ei enw yn gofyn i bobl brynu rhywbeth ar ei ran.
Mi fydden nhw wedi gofyn am fanylion banc wrth drefnu ad-dalu am y ffafr.
Fe dreuliodd y Parchedig Lewis Evans ddiwrnod cyfan yn cysylltu â phobl yn dilyn y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf.
'Ges i dipyn o fraw'
"Oedd o'n dipyn o bryder. Oedd y diwrnod i gyd mwy neu lai yn fater o ddelio hefo'r broblem," meddai.
"Mi ges i dipyn o fraw a dweud y gwir. Negeseuon yn cyrraedd o bob cyfeiriad. Mi oedd hi'n sioc fawr fod rhywun wedi smalio bod yn fi."
Roedd yna dair neges i gyd yn gofyn i bobl brynu taleb ar ran y Parchedig, a'r sgamwyr yn gobeithio cael manylion banc pobl wrth drefnu talu yn ôl.
Roedd un neges yn darllen: "Mae'n ddrwg gen i am eich trafferthu gyda'r post hwn.
"Mae arnaf angen i chi gael cerdyn rhodd chwarae Google ar gyfer ffrind sydd â chanser yr afu, mae'n ben-blwydd arni heddiw ac addewais ei gael ar ei chyfer, ond ni allaf gwnewch hyn nawr oherwydd fy mod i allan o'r dref ar hyn o bryd ac roedd fy holl ymdrech i'w brynu ar-lein yn afresymol.
"A allwch ei gael o unrhyw siop o'ch cwmpas i mi? Byddaf yn ad-dalu ichi ar ôl cyrraedd. Rhowch wybod i mi a allwch drin hyn fel y gallaf ddweud wrthych y swm a sut i'w cael ataf."
'Cymrwch gam yn ôl'
Yn ôl y Parchedig roedd y Gymraeg ychydig yn wallus yn y neges gyntaf, ond dywedodd y gallai'r ail a'r drydedd neges fod wedi eu hysgrifennu gan rywun oedd yn siarad Cymraeg.
"Mae gynnon ni grŵp Facebook capel ac mi oedd pobl yn cysylltu i ofyn os oedd y neges yn un go iawn, ond mi oedd hi'n fy nharo i y gallai pobl gael eu twyllo am fod y neges yn uniaith Gymraeg," meddai.
Yn ôl Rob Palmizi o Cyngor ar Bopeth, er bod sgamwyr yn soffistigedig mae 'na gliwiau sy'n gallu ein helpu ni i weld pan fo neges yn amheus.
"Mae 'na lot o bethau i edrych amdano. Y peth cyntaf ydy, os oes cynnig yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, mwy na thebyg mae e," meddai.
"Mae 'na bethau fel camgymeriadau sillafu, neu os oes rhywun yn gofyn am arian mewn ffordd anghyfarwydd.
"Os 'dach chi ddim yn siŵr, cymrwch gam yn ôl. Meddyliwch amdano, a gwnewch dipyn bach o ymchwilio cyn gwneud unrhywbeth."
Ni chollodd unrhyw un arian o ganlyniad i hacio e-bost y Parchedig Lewis Evans, ond mae'n dweud fod angen cymryd gofal, yn enwedig wrth dderbyn neges yn Gymraeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2019