CPD Dinas Bangor allan o gynghreiriau uchaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
NantporthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi'i wahardd ar hyn o bryd am beidio â thalu chwaraewyr a staff

Ni fydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn chwarae yn ail haen cynghreiriau Cymru y tymor nesaf, wedi iddi ddod i'r amlwg nad yw'r clwb wedi gwneud cais am drwydded i wneud hynny.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad yw'r clwb wedi gwneud cais i chwarae yn yr un o'r tair cynghrair uchaf ar gyfer tymor 2022-23.

Mae'r clwb o'r Cymru North wedi'i wahardd ar hyn o bryd am beidio â thalu chwaraewyr a staff.

Mae Dinas Bangor wedi'i wahardd o "holl weithgareddau pêl-droed" am fynd i ddyled o bron i £53,000 i staff y clwb.

Dim ond ar gyfer tair cynghrair uchaf y pyramid pêl-droed y mae angen trwydded, felly mae'n bosib y gallai'r clwb geisio chwarae yn y bedwaredd haen y tymor nesaf - Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru.