Pobl 'wedi blino' gyda gwahanol reolau Covid, yn ôl arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Woman walking by social distancing signFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn dweud fod pobl "yn dechrau blino" gyda gwahanol reolau Covid-19.

Yn ôl Dr Simon Williams, sy'n ddarlithydd seicoleg, mae "diffyg rheolau cyson" ar draws y DU yn "fethiant".

Daw hyn ar ôl i Mark Drakeford gyhuddo Boris Johnson o "beidio gweithredu" i "warchod pobl yn Lloegr" rhag y coronafeirws.

Yn wahanol i Gymru, mae clybiau nos ar agor yn Lloegr a does dim cyfyngiadau ar faint o bobl sy'n gallu gwylio gemau chwaraeon o unrhyw fath.

Rhybuddiodd Mr Drakeford yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Gwener ein bod yn "wynebu mis anodd".

Mae mwy na 2,200 o achosion o'r coronafeirws fesul 100,000 o bobl yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Wrth siarad ar Radio Wales Breakfast, dywedodd Dr Williams: "Un o'r methiannau mawr ar hyd y DU oedd y gallu i gael rheolau cyson.

"Pan fo gyda chi wahanol reolau mewn gwahanol wledydd, mae'n drysu pobl ac yn tanseilio rheolau ar y naill ochr a'r llall... mae wastad wedi bod yn frwydr i gael gwahanol set o reolau a chyngor.

"Dwi'n meddwl bod lot o sŵn ym meddyliau pobl a bod hyn yn achosi rhywfaint o ansicrwydd ynghylch beth ddylen ni fod yn gwneud a phryd, ac ry'n ni'n dechrau gweld blinder... mae pobl mewn limbo ynglŷn ag a ddylen nhw fod yn cymryd rhagofalon."

'Angen cadw at arferion da'

Ond ychwanegodd Dr Williams fod pobl yn dilyn arferion da fel gwneud profion llif unffordd cyson.

Dywedodd: "Y cwestiwn yw nawr - a allwn ni gadw at rhai o'r arferion da hynny?

"Ry'n ni'n gweld fod mwy o bobl yn gwneud profion llif unffordd, wrth gwrs mi allai hynny fod oherwydd fod pobl yn teimlo'n sâl neu'n profi symptomau.

"Mae gwisgo mygydau wedi bod yn uchel iawn, ac mae mwy o bobl yn ymbellhau'n gymdeithasol yn wahanol i o'r blaen - felly beth sy'n allweddol nawr yw ein bod yn cadw at hynny am o leiaf yr wythnosau a'r misoedd nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad yw Llywodraeth y DU yn "cymryd y camau angenrheidiol"

Ddydd Gwener, fe gadarnhaodd Mr Drakeford na fyddai newidiadau pellach i gyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Gyda hynny, fe gyhuddodd Llywodraeth y DU o "beidio cymryd y camau angenrheidiol" oherwydd bod y llywodraeth "wedi'i pharlysu'n wleidyddol".

Dywedodd: "Mae Cymru'n gweithredu ynghyd â'r Alban, Gogledd Iwerddon a gwledydd ar draws Ewrop ac ar draws y byd.

"Yn Lloegr mae gennym lywodraeth sydd wedi'i pharlysu'n wleidyddol a phrif weinidog sydd yn methu sicrhau cytundeb yn ei gabinet i gymryd y camau y mae ei ymgynghorwyr yn dweud wrtho y dylai gael eu cymryd," ychwanegodd.

"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw amheuaeth bod y cyngor y mae Llywodraeth y DU wedi ei dderbyn yn gyngor y dylai fod wedi arwain at weithredu yn hytrach na llaesu dwylo a gadael i bethau fynd ymlaen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r DU gyfan yn profi'r twf cyflymaf mewn achosion Covid yr ydym erioed wedi'i weld, ond mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau cyflym i gyflwyno mesurau synhwyrol a chymesur o Gynllun B i reoli lledaeniad yr amrywiolyn Omicron tra'n lleihau'r effaith ar bywydau a bywoliaeth pobl.

"Mae Llywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr bod pawb sy'n gymwys ar draws y wlad gyfan yn gallu dod ymlaen ar gyfer eu pigiadau atgyfnerthu achub bywyd, gyda dros 35 miliwn wedi'u darparu hyd yma, ac yn parhau i ddarparu cymorth i bob rhan o'r DU i reoli effeithiau'r pandemig a chadw pobl yn ddiogel."

'Ddim yn annisgwyl'

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, wrth BBC Cymru bod llywodraethau gwahanol y naill ochr i'r ffin yn golygu nad oedd yn annisgwyl y byddai rheolau yn wahanol.

"Mae gennym ni reolau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r DU oherwydd mae gennym ni bedair gweinyddiaeth wahanol yn gyfrifol mewn amrywiol ffyrdd am iechyd y cyhoedd," meddai.

"Maen nhw i gyd yn edrych ar y dystiolaeth ac maen nhw i gyd yn edrych arni o ran yr hyn sy'n digwydd gyda Covid ar eu clytiau a'r hyn y mae'r dystiolaeth wyddonol yn ei awgrymu am y feirws."

Yn y cyfamser, fe ddywedodd arbenigwr sydd wedi cynghori llywodraethau'r DU a Chymru, y dylai rheolau Covid gael eu llacio i lefelau cyn-Omicron.

Dywedodd yr Athro John Watkins fod y brechlyn atgyfnerthu'n golygu nad yw'r bygythiad yn waeth na'r amrywiolyn Delta.

Ddydd Gwener, cofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 21 marwolaeth yn rhagor a 7,915 achos newydd o Covid-19.

Mae'r gyfradd o achosion fesul bob 100,000 o bobl yn parhau i gynyddu, ond mae'r gyfradd o bobl sy'n profi'n bositif ar gyfer Covid-19 wedi gostwng ychydig i 51.2%.