Ymgyrch mam i atal mwy rhag boddi drwy osod offer achub

  • Cyhoeddwyd
Mark AllenFfynhonnell y llun, Leeanne Bartley
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Allen wedi iddo neidio i gronfa ddŵr oer tra'n ceisio oeri ar ddiwrnod crasboeth

Bydd ymgyrch mam i leihau nifer y bobl sy'n boddi mewn llynnoedd neu gronfeydd dŵr ar ddamwain yn cael ei thrafod gan wleidyddion.

Bu farw Mark Allen wedi iddo neidio i gronfa ddŵr er mwyn oeri ar ddiwrnod crasboeth yn haf 2018.

Mae ei fam Leeanne Bartley am i orsafoedd cortynnau taflu gael eu gosod wrth bob llyn.

"Petai offer achub wedi bod wrth y gronfa lle boddodd Mark, mae yna bosibilrwydd cryf y byddai'n fyw heddiw", meddai ei fam.

Mae 400 o bobl yn boddi'n ddamweiniol yn y DU bob blwyddyn - mae'r nifer ar gyfartaledd yng Nghymru yn 45.

'Diwrnod chwerwfelys'

Mae deiseb ag arni dros 11,000 o lofnodion yn nodi, dolen allanol: "Rydym ni, teulu a ffrindiau Mark, o'r farn y dylai fod yn gyfraith gwlad i osod cortynnau taflu fel y rheiny a osodwyd lle bu farw Mark, mewn lleoedd dynodedig o amgylch pob cronfa ddŵr, llyn, camlas ac ati.

"Wrth siarad â phobl sy'n gweithio ym maes diogelwch dŵr, e.e. gwasanaethau tân ac ati, mae cortynnau o'r fath wedi achub llawer o fywydau."

Mae deiseb arall a fydd yn mynd ger bron Llywodraeth y DU wedi denu degau o filoedd o gefnogwyr.

Ffynhonnell y llun, Leeanne Bartley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark yn un o chwech o blant ac mae ei bum chwaer yn rhan o'r ymgyrch

Fe foddodd Mark wedi iddo neidio i Gronfa Gorton ger Parc Debdale ym Manceinion ym Mehefin 2018. Er bod hi'n ddiwrnod poeth, roedd y dŵr yn oer ac fe aeth y myfyriwr i drafferthion.

Ddydd Llun fe fydd Leeanne Bartley yn cyflwyno tystiolaeth ger bron y Senedd ac mae'n gobeithio y bydd ei hymgyrch i sicrhau gorsafoedd cortynnau taflu yn dod yn gyfraith gwlad.

"Mae'n amlwg yn ddiwrnod chwerwfelys ond yn ddiwrnod hynod o bwysig," medd Ms Bartley, o Ruthun.

Ffynhonnell y llun, Leeanne Bartley
Disgrifiad o’r llun,

Chwiorydd Mark - Caitlin a Meg ger yr Orsaf Cortyn Brys sydd wedi ei gosod yn agos i'r llyn lle bu farw Mark

"'Da ni am gadw enw Mark yn fyw, gwneud rhywbeth positif a helpu rhywun arall rhag colli ei fywyd.

"Dydy hi ddim yn rhywbeth anghyffredin i bobl ifanc fynd i nofio mewn dŵr agored gan nad ydynt yn ymwybodol o'r peryglon.

"Doedd yna ddim offer o gwbl o gwmpas y diwrnod bu farw Mark. Petai rhaff wedi bod yno byddai un o'i ffrindiau wedi gallu ei dynnu o'r dŵr a phetai wedi cael CPR efallai y byddai o hefo ni heddiw."

Ffynhonnell y llun, Leeanne Bartley
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Mark wedi creu cymeriad o'r enw Capten Sparky i godi ymwybyddiaeth am beryglon nofio mewn dŵr agored

Ers marwolaeth Mark, mae gorsaf cortyn brys wedi'i gosod yn agos i'r llyn lle bu farw - ar gost o ryw £250.

"Dwim yn meddwl bod hi'n ormod i ofyn bod offer a all achub bywyd yn cael ei osod ger dŵr agored," medd Ms Bartley.

"Mae diffibrilwyr yn cael eu gosod mewn nifer o gymunedau gan eu bod yn gallu achub bywydau - ac mae'r rhain yn gweithio yn yr un ffordd. Mae unrhyw beth sy'n gwella'r siawns o achub bywyd yn syniad da."

Mae Strategaeth Atal Boddi y DU a gafodd ei ffurfio yn 2016 yn ceisio lleihau nifer y bobl sy'n boddi drwy gynyddu ymwybyddiaeth plant am ddiogelwch yn y dŵr.

Ond mae Ms Bartley am i orsafoedd cortynnau taflu fod yn orfodol yn ymyl llynnoedd a chronfeydd. Mae 110,000 wedi arwyddo deisebau a fydd yn mynd ger bron llywodraethau Cymru a'r DU.