Cyfrifiad 1921: Darlun o Gymru ganrif yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Lloyd George a gweithwyr amaethyddolFfynhonnell y llun, Getty/Beryl Jones/Casgliad y Werin

O ddangos bod y nifer o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng am y tro cyntaf i ddatgelu lleoliad ambell i enw adnabyddus, mae Cyfrifiad 1921 yn codi cwr y llen ar fywyd yng Nghymru ganrif yn ôl - gwlad oedd wedi ei siglo gan y Rhyfel Byd Cyntaf a phandemig ffliw Sbaen.

Yr hanesydd Gwyn Jenkins, cyn-archifydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac awdur Cymry'r Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n trafod Cyfrifiad 1921 wrth i fanylion unigolion a thudalennau o'r ffurflenni fod ar gael i'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Pan gynhaliwyd Cyfrifiad 1921 ym mis Mehefin y flwyddyn honno, roedd cysgod trwm y Rhyfel Mawr, a ddaeth i ben yn 1918, yn parhau a chyfnod ansefydlog o safbwynt economi a gwleidyddiaeth Prydain yn dechrau dod i'r amlwg. Roedd y gobeithion o greu 'A Land Fit For Heroes' wedi dechrau pylu a chyn-filwyr yn arbennig, yn teimlo eu bod wedi'u bradychu.

Roedd helbulon diwydiannol yn nodwedd o'r cyfnod, gyda thwf sylweddol mewn aelodaeth undebau llafur a'r frwydr i wella safonau gwaith ac ennill cyflogau uwch yn arwain at sawl anghydfod. Roedd hynny'n arbennig o wir am y diwydiant glo a gyflogai tua chwarter miliwn o weithwyr yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru/Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr glofaol yn 1920

Er nad oedd y Cyfrifiad felly'n adlewyrchu'r diweithdra enbyd a oedd i ddilyn yn yr 1920-30au, o ystyried y manylion a geir am deuluoedd mawr yn byw mewn tai cyfyng a bychain eu maint, mae modd dychmygu sut y byddai diweithdra yn arwain at y tlodi affwysol a oedd i ddilyn.

Newid gwleidyddol

Roedd hwn yn gyfnod o gynnydd yn y gefnogaeth i'r Blaid Lafur yng Nghymru ar draul y Rhyddfrydwyr, er bod y Rhyddfrydwr Cymreig enwocaf oll, David Lloyd George, yn Brif Weinidog ar y pryd. Tra oedd yntau, ar ddydd y Cyfrifiad, yn aros yn Chequers, plasty moethus yng nghefn gwlad swydd Buckingham, roedd eraill yn ymbaratoi i'w ddisodli.

Yn ôl y Cyfrifiad, nid oedd dau o sosialwyr Cymreig mawr yr ugeinfed ganrif, Aneurin Bevan a Jim Griffiths, adref yng Nghymru ond yn hytrach yn Llundain yn mynychu'r Central Labour College lle y cawsant eu trwytho yn y syniadaeth a arweiniodd yn y pen draw at yrfaoedd chwyldroadol disglair.

Ffynhonnell y llun, Beryl Jones/Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod cynaeafu ym Mhantyrefail, Ffostrasol, Ceredigion, o gwmpas 1920

Yng nghefn gwlad Cymru gwelid newidiadau aruthrol ym mherchnogaeth ffermydd, yn arbennig yn y cyfnod 1918-22. Chwalwyd nifer o hen ystadau Cymreig wrth i bwysau trethi marwolaeth neu gostau uchel orfodi uchelwyr i werthu tir, a hynny'n aml i'w tenantiaid.

O gymharu y manylion am ffermydd yng nghyfrifiad 1911 ac un 1921, bydd modd gweld enghreifftiau di-rif o denantiaid yn troi yn berchnogion. Serch hynny, daeth dirwasgiad amaethyddol difrifol i lethu sawl amaethwr yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd a thra roedd grym gwleidyddol yr uchelwyr wedi pylu, roedd rhai ohonynt yn parhau i fyw yn foethus yn eu plastai mawr.

Siaradwyr uniaith Gymraeg

Am y tro cyntaf erioed dangosodd y Cyfrifiad fod y nifer o bobl a fedrai'r Gymraeg wedi lleihau, gyda 37% o'r boblogaeth yn medru'r iaith. Cofnodwyd hefyd bod oddeutu 157,000 yn uniaith a bod holl boblogaeth plwyf Bodferin (a oedd yn cynnwys Aberdaron) yn ddi-Saesneg. Gan mlynedd yn ddiweddarach, mae'r sefyllfa yno wedi newid yn aruthrol.

Ffynhonnell y llun, Emyr Roberts/Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i'r niferoedd o siardwyr Cymraeg - a Saesneg - dyw'r olygfa o Aberdaron heb newid llawer mewn canrif. Cafodd y llun yma ei dynnu rhwng Cyfrifiad 1911 ac 1921

Un o ganlyniadau'r trai yn nifer y siaradwyr Cymraeg oedd datblygu safbwyntiau newydd cenedlaetholgar gan gynnwys sefydlu Byddin Ymreolwyr Cymru yn 1924, gyda Saunders Lewis yn flaenllaw. Roedd ef, yn ôl Cyfrifiad 1921, yn gweithio fel llyfrgellydd yn Abertawe ac erbyn 1925 enwebwyd ef yn llywydd cyntaf Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru wedi hynny).

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Saunders Lewis (dde) ddatblygu yn un o ffigurau amlycaf y cenedlaetholwyr. Dyma fo gyda D.J Williams a'r Parch. Lewis Valentine 15 mlynedd wedi'r Cyfrifiad, yn ystod y flwyddyn wnaeth y tri losgi ysgol fomio Penyberth ym Mhen Llŷn

Tra bod yr ystadegau a ddeillia o Gyfrifiad 1921 yn hysbys ers blynyddoedd lawer, gyda rhyddhau yn awr y manylion am unigolion a theuluoedd, mae modd canfod gwybodaeth ddadlennol. Serch hynny, gan fod y dull chwilio wedi'i deilwra ar gyfer haneswyr teulu, bydd yn eithriadol o anodd i haneswyr gasglu gwybodaeth am gymunedau daearyddol yn gyffredinol, yn arbennig gan ei fod yn gostus iawn i lawrlwytho'r cofnodion.

Rhaid i ymchwilwyr hefyd ochel rhag ddibynnu ar fynegai sy'n gallu bod yn wallus. Roedd enw fy hen ewythr Iorwerth Phillips wedi ei fynegeio fel 'Forweth', canlyniad trawsgrifiad anghywir gan un nad oedd yn gyfarwydd ag enwau Cymreig.

Felly hefyd enw tad Saunders Lewis, a oedd, yn ôl y mynegai, yn 'Ludwig' Lewis nid Lodwig. Hen broblem o safbwynt cofnodion cyfrifiadau'r gorffennol ac, mae'n amlwg, Cyfrifiad 1921.

  • Mae Cyfrifiad 1921 ar gael am ddim wrth ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Llyfrgell Ganolog Manceinion neu'r Archif Cenedlaethol yn Llundain - neu arlein, am gost, ar wefan Findmypast.

Pynciau cysylltiedig