'Dim hawl dynol i bobl â dementia weld eu teuluoedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Liz Saville Roberts gyda'i mam, Dr Nancy SavilleFfynhonnell y llun, Liz Saville Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Liz Saville Roberts gyda'i mam, Dr Nancy Saville, sydd newydd gael diagnosis o ddementia

Mae Aelod Seneddol Cymreig yn galw am newid i'r gyfraith i sicrhau fod hawliau dynol cleifion dementia yn cael eu parchu.

Ar hyn o bryd mae mam Liz Saville Roberts yn cael gofal ysbyty ond pan fydd hi'n mynd i gartref nyrsio mae'r aelod dros Ddwyfor Meirionydd yn ofni na fydd hawl ymweld â hi.

Dywedodd Cymdeithas Alzheimer's Cymru bod angen i'r rheolau fod yn fwy eglur, gan ddadlau bod iechyd gormod o gleifion yn dirywio o beidio cael gweld eu hanwyliaid.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r canllawiau'n glir, ac mae gan un aelod o'r teulu hawl i ymweld â pherthynas mewn cartref gofal hyd yn oed pan fo achos o Covid-19 yn y cartref.

Cafodd Dr Nancy Saville, strôc y llynedd ac mae hi hefyd wedi cael sawl codwm yn ddiweddar.

Cafodd ddiagnosis o dementia cyn y Nadolig, ac mae'n bosib y bydd yn gorfod mynd i gartref nyrsio.

Disgrifiad,

Liz Saville Roberts: "Fydda gyda ni ddim hawl i weld ein gilydd"

Mewn araith emosiynol yn San Steffan wythnos diwethaf fe wnaeth Liz Saville Roberts erfyn ar Brif Weinidog y DU, Boris Johnson i roi diwedd ar unigrwydd y rhai sy'n byw efo dementia.

Dywedodd bod gan bobl sy'n anabl, oedrannus neu'n sâl "hawl i fywyd teuluol", a bod atal ymweliadau teuluol yn "achosi niwed di-droi'n-ôl i les" y fath unigolion.

Wrth amlinellu sefyllfa ei mam, dywedodd ei bod yn ofni y bydd hi a'i theulu "fel llawer o ein hetholwyr dan amgylchiadau tebyg, yn debygol o gael ein gwahanu am gyfnod amhenodol pan fydd hi'n cael ei symud i gartref nyrsio".

'Ai Covid ta dementia sy'n lladd pobl?'

Dywedodd yr AS Plaid Cymru wrth raglen Newyddion S4C: "Does gan rywun efo dementia ddim hawl dynol i weld eu teuluoedd.

"Ma' 'na hawliau gan grwpiau eraill, ond dyma ni un o'r grwpiau sy' 'di diodde' mwya' yn ystod y cyfnod Covid, a dwi yn meddwl, gwirioneddol, bod amser i ni newid hynny.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Nancy Saville yn debygol o orfod symud o'r ysbyty i gartref nyrsio

"Y cwestiwn mawr mae rhaid gofyn i ni'n hunain [yw] ai Covid sydd yn parhau i ladd pobl mewn cartrefi gofal a cartrefi preswyl yn bennaf neu ydyn nhw'n marw o gyflyrau eraill?

"Dementia ydi'r prif gyflwr neu salwch sy'n lladd menywod a'r ail brif gyflwr i ladd dynion. Ai dementia sy'n lladd pobl felly?

"Ac os felly, ydy'r cadw nhw ar wahân o'u teuluoedd nhw, cadw nhw yn ynysig, yn g'neud mwy o niwed ac yn cyflymu yr adeg trist maen nhw'n mawr yn fwy na bydde cadw cysylltiad cymdeithasol yn ei g'neud?"

"Mae'n drist i weld hi yn y cyflwr mae hi," medd Brian Humphreys o Frynaman am ei chwaer iau, Elaine John.

Mae'n ei chofio'n "ferch ddawnus, wedi bod yng Ngholeg Y Barri, a mynd i ddysgu, organyddes capel, ysgrifennydd y capel" oedd â "llais alto da" ac yn "gallu chwarae hen nodiant a sol-ffa".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Brian Humphreys bod hi'n anodd trefnu i weld ei chwaer yn y cartref gofal ble mae hi'n byw

Erbyn hyn, yn 72 oed ac yn ddifrifol wael gyda dementia, dyw hi "methu neud dim nawr" ac yn byw mewn cartref gofal ag oddeutu 90 o breswylwyr yn Ystradgynlais.

Mae'r gofal, meddai, yn "arbennig" ond am rai misoedd y llynedd, doedd dim hawl ganddo i'w gweld o gwbl. Mae hynny wedi newid yn ddiweddar, ac fe'i gwelodd hi ddiwethaf cyn Nadolig.

"Mae'n galed," meddai. "Ni'n trio mynd lawr pryd y'n ni'n gallu.

"Mae croeso i ni fynd lawr ond mae'n rhaid cael apwyntiad. Galla' i ffonio nes ymlaen heddi' i weld beth yw'r sefyllfa - falle byddwn ni ffaelu cael apwyntiad nes wythnos nesa.

"Mae'n rhaid derbyn e, beth maen nhw'n gweud, ond mae croeso i ni yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae atal ymweliadau'n "achosi niwed di-droi'n-ôl i les" unigolion anabl, oedrannus a sâl", medd Liz Savile Roberts

Mae angen canllawiau cliriach gan Lywodraeth Cymru yn ôl rhai elusennau.

Mae Cymdeithas Alzheimer's Cymru'n dweud yn dweud fod gan deuluoedd yr hawl i ymweld â chartref gofal hyd yn oed os oes achosion o Covid yno.

"Beth 'dan ni'n gweld yw fod y canllawiau 'ma'n eitha' agored," meddai Sion Jones o'r Gymdeithas.

"A 'dan ni'n gweld cartrefi gofal sydd weithia yn bod falle bach yn or-ofalus gyda'r canllawia' a sy'n arwain ar ddirywiad ymysg pobol sy'n byw gyda dementia yn y cartref."

'Mae'r canllawiau'n glir'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi darparu lefelau sylweddol o gyllid i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol i oedolion drwy gydol y pandemig ac rydym yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i ddod o hyd i atebion i'r materion ehangach sy'n wynebu'r sector, gan gynnwys premiymau cynyddol ac anhawster i sicrhau yswiriant am Covid.

"Mae ein canllawiau ar ymweld â chartrefi gofal yn glir y dylai pob darparwr barhau i gefnogi ymweliadau dan do arferol mewn ffordd sy'n rheoli risg.

"Os bydd achos o'r clefyd, gall preswylwyr barhau i dderbyn ymweliadau dan do gan eu 'ymwelydd hanfodol' enwebedig.

"Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn parhau i godi'r mater gyda chartrefi gofal pan ddaw'n ymwybodol o faterion."