Cynnydd biliau ynni i 'beryglu' iechyd a lles pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Hen bersonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai pobl hŷn ddisgyn i 'dlodi tanwydd,' dywed Heléna Herklots

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn rhybuddio y gallai cynnydd mawr mewn biliau ynni olygu y bydd rhai pobl yn gorfod dewis rhwng pryd da o fwyd neu wresogi eu cartrefi.

Mae Heléna Herklots wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am gymorth ariannol ychwanegol i helpu pobl hŷn sydd ar incwm isel.

Mae'n galw am ehangu'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf fel bod mwy o bobl yn gymwys i dderbyn arian.

Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd y llywodraeth bod modd i aelwydydd cymwys hawlio taliad un tro o £100 gan eu cyngor lleol o dan y cynllun, i'w cynorthwyo i dalu biliau tanwydd dros y gaeaf.

Mae'r Comisiynydd hefyd eisiau gweld y llywodraeth yn cynnal ymgyrch yn y cyfryngau yn annog mwy o bobl i wneud cais am Gredyd Pensiwn, fel eu bod nhw'n cael yr arian maen nhw'n gymwys i'w dderbyn.

'Dewis rhwng bwyd a gwres'

Dywedodd Heléna Herklots: "Trwy gydol y pandemig, mae pobl hŷn wedi dangos dycnwch mawr, ond rydyn ni hefyd wedi gweld pa mor bwysig yw hi fod cefnogaeth ar gael i bobl hŷn, yn enwedig rheini all fod yn fregus."

"Mae costau byw eisoes yn codi'n sylweddol.

Ffynhonnell y llun, Carers UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heléna Herklots yn galw am fwy o gymorth ariannol i bobl hŷn ar incwm isel

"Wrth i ni ddisgwyl gweld costau'n codi eto fyth - mae 'na amcangyfrifon gallai prisiau ynni godi hyd at 40% ym mis Ebrill - rydyn ni'n debygol o weld hyd yn oed yn fwy o bobl hŷn yn wynebu tlodi tanwydd."

Ychwanegodd Ms Herklots y gallai olygu "gorfod dewis p'un ai i fwyta pryd da neu wresogi eu cartrefi, gan beryglu eu hiechyd a'u lles er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd."

Mae'r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd gyda sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda phobl hŷn, gan gynnwys Age UK, Age Cymru, Scottish Care a Chomisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon.

Maen nhw'n galw am weithredu gan lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y gefnogaeth maen nhw ei angen yn ystod "y gaeaf heriol hwn".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae aelwydydd yng Nghymru o dan bwysau ariannol digynsail, sy'n waeth oherwydd yr argyfwng costau byw a'r penderfyniad creulon gan Lywodraeth y DU i roi terfyn ar y cynnydd i Gredyd Cynhwysol, sydd wedi plymio llawer mwy o oedolion sy'n agored i niwed i dlodi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall costau ynni godi hyd at 40% ym mis Ebrill, yn ôl y Comisiynydd

"Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi teuluoedd, unigolion a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni yn ystod y cyfnod anodd hwn," medden nhw.

"Dyna pam mae gennym ni gynlluniau ar waith i helpu pobl i ddatblygu eu gwydnwch ariannol, gan gynnwys ein hymgyrch hawlio budd-daliadau 'Hawliwch Yr Hyn Sy'n Ddyledus I Chi', ac rydyn ni wedi ariannu gwasanaethau cynghori sydd wedi helpu pobl i hawlio mwy nag £17m o incwm ychwanegol.

"Rydyn ni'n parhau i gynnig cymorth i bobl hŷn sy'n derbyn pensiwn y wladwriaeth i sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn Taliad Tanwydd Gaeaf sydd rhwng £100 a £300."