Rygbi Cymru: Cyhoeddi'r menywod cyntaf i droi'n broffesiynol
- Cyhoeddwyd
Mae capten Cymru, Siwan Lillicrap a'r seren saith bob ochr y byd Jasmine Joyce ymhlith y 12 chwaraewr benywaidd cyntaf i gael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru (URC).
Mae'r cyn-gapten Carys Phillips hefyd yn cael cytundeb wedi perfformiadau campus wrth ddychwelyd i'r tîm cenedlaethol yng ngemau rhyngwladol yr hydref.
Donna Rose, sydd wedi ennill chwe chap, yw'r chwaraewr lleiaf profiadol i droi'n broffesiynol.
Y chwaraewyr eraill sydd wedi cael cytundebau yw'r haneri Elinor Snowsill a Keira Bevan, capten rygbi'r gynghrair Cymru, Ffion Lewis, Alisha Butchers, Natalia John, Gwenllian Pyrs, Hannah Jones a Lisa Neumann.
Yn wreiddiol, roedd URC wedi bwriadu rhoi cytundeb proffesiynol i 10 o chwaraewyr rygbi'r undeb, ynghyd â 15 o gytundebau rhannol-broffesiynol a fydd yn talu llai, sydd eto i'w cyhoeddi.
Mae'r cytundebau 12 mis yn dechrau o'r wythnos hon. Dydy'r undeb heb gadarnhau gwerth y cytundebau.
Proses ddethol 'galed'
Roedd y broses ddethol yn "galed ond pleserus" yn ôl y prif hyfforddwr, Ioan Cunningham.
"Roedd yn rhaid i ni fod yn eitha' clinigol- yn ddidostur, hyd yn oed," meddai.
"Yn amlwg mae gyda ni nodau yn y tymor byr a'r tymor canolig yn nhermau'r Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi'r Byd, ond rydym hefyd eisiau datblygu'r chwaraewyr gorau ar gyfer y dyfodol.
"Rydym wedi dewis y chwaraewyr rydym yn teimlo gall wneud y gwahaniaeth fwyaf ar hyn o bryd, heb anghofio cyfraniad y chwaraewyr sy'n cael cytundebau cadw i'r rhaglen hefyd."
'Diwrnod o falchder'
Mae'r datblygiad yn un "hanesyddol", medd Cyfarwyddwr Perfformiad URC, Nigel Walker.
Bydd yn "galluogi'r chwaraewyr hyn i fod yn chwaraewyr proffesiynol llawn amser gyda chysylltiad rheolaidd, wythnosol [yng Nghanolfan Ragoriaeth yr undeb ger Caerdydd] gyda Ioan Cunningham, gweddill yr hyfforddwyr ac ein tîm o arbenigwyr gwyddonol a meddygol".
Ychwanegodd: "Bydd hyn oll yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i baratoadau, ffitrwydd a sgiliau penodol y chwaraewyr i'n galluogi i herio timau gorau'r byd."
Dywedodd prif weithredwr URC Steve Phillips: "Mae hwn yn ddiwrnod balch iawn i ni fel corff llywodraethol.
"Bydd hon yn flwyddyn anodd ond bythgofiadwy i rygbi'r merched a bydd y chwaraewyr hyn - a'r chwaraewyr ar gytundebau cadw ac aelodau eraill y garfan - yn elwa o'r holl gefnogaeth arbenigol ar ac oddi ar y cae i'w helpu i gyrraedd eu potensial.
"Mae hwn yn ddechrau ar siwrne gyffrous i fenywod a genethod yng Nghymru."
'Chwarae teg'
Bydd y cytundebau'n "trawsnewid cyfleoedd" i'r chwaraewyr, yn ôl cyn-chwaraewr Cymru, Dyddgu Hywel.
"Fydd dim rhaid iddyn nhw drio ga'l y balans yna rhwng gwaith llawn amser a ga'l perfformio rygbi ar y lefel rhyngwladol," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.
"[Bydd] ymarferion yn symud i ganol wythnos yn hytrach na gyda'r nos ac ar benwythnosa'...
"Mae hefyd yn mynd i roi chwara' teg iddyn nhw i roid perfformiada' gwell."
Ond rhybuddiodd bod heriau'r parhau i'r tîm cenedlaethol gan fod "hanner y sgwad dal yn gweithio llawn amser - sut maen nhw'n mynd i ymarfer fel sgwad?"
Dywedodd bod y detholwyr wedi "edrych ar y safleoedd ar y cae" wrth roi'r cytundebau cyntaf hanesyddol.
"Mae ginnoch chi reng flaen llawn, ma' ginnoch chi un o'r ail reng, sef Natalia John, a wedyn dwy o'r reng ôl - Siwan Lillicrap y capten, wrth gwrs, ac Alisha Buthcers sydd wedi chwarae'n wych yng Nghyngrair yr Alliance yn Lloegr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021