Llanbedr Pont Steffan: 'Anafiadau ci' laddodd William Jones

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd hi'n "amlwg fod yna le difrifol yna" meddai Ann Bowen Morgan

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod ymchwiliadau cynnar yn awgrymu mai anafiadau a achoswyd gan gi oedd yn gyfrifol am farwolaeth dyn 68 oed yn Llanbedr Pont Steffan nos Lun.

Cafodd y cwest i farwolaeth John William Jones, oedd yn cael ei adnabod fel William, ei agor a'i ohirio ddydd Mercher.

"Mae ymchwiliadau hyd yn hyn, gan gynnwys archwiliad post-mortem agoriadol yn awgrymu fod holl anafiadau William wedi eu hachosi gan gi, gan arwain at ei farwolaeth," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Yn y cyfamser, mae'r gymuned yn Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn sôn am eu sioc wrth glywed am y digwyddiadau nos Llun.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau fod tri chi, oedd ddim ar restr y cŵn sydd wedi eu gwahardd, wedi eu cymryd o'r safle yn ardal Brynhyfryd ar ôl cael cyffur i'w llonyddu.

Bu farw un o'r cŵn, oedd wedi ei lonyddu, o achosion naturiol tra yng ngofal milfeddyg, meddai'r heddlu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Selwyn Walters bod y digwyddiad yn sioc i'r ardal

Dywedodd maer y dref Selwyn Walters fod yr hyn ddigwyddodd wedi syfrdanu'r ardal, a bod cydymdeimlad y dref i gyd yn mynd i'r teulu.

"Ma' pethau fel hyn ddim yn digwydd yn aml yn Llambed, oedd e'n sioc mawr yn wir.

"Ma' hyn wedi effeithio eu ffrindiau yn fawr iawn.

"Mae cydymdeimlad yn mynd mas.

"Mae'n drist fod rhywun wedi colli bywyd yn y fath modd."

'Teimlo dros y teulu'

Dywed Heddlu Dyfed-Powys iddyn nhw dderbyn galwad am 17:00 ar 10 Ionawr bod dyn wedi ei frathu.

Roedd Ann Bowen Morgan yn ei chartref pan glywodd y gwasanaethau brys yn cyrraedd y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Brynhyfryd nos Lun

"Roedd hi wedi tywyllu, mae'n siŵr bod hi tua pump, hanner awr wedi pump, a glywom ni sŵn a seiren ac ambiwlans yn dod a fflachiadau glas.

"Roedd hi'n amlwg fod yna le difrifol yna.

"Ma' pawb wedi clywed, yn poeni ac yn teimlo dros teulu y dyn a fu farw."

Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o fod â chi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth, ac fe gafodd ei rhyddhau dan ymchwiliad.