Gwylwyr y Glannau yn disgwyl haf prysur wrth nodi'r 200
- Cyhoeddwyd
Mae ansicrwydd ynglŷn ag effaith Covid-19 ar gynlluniau teithio yn golygu bod swyddogion Gwylwyr y Glannau'n paratoi am haf prysur arall, ar ôl eu blwyddyn brysuraf erioed y llynedd.
Fe wnaeth criwiau ymateb i 36,330 o ddigwyddiadau yn 2021.
Gyda phosibilrwydd y bydd rhai cyfyngiadau teithio tramor yn parhau, mae'r gwasanaeth yn rhagweld y bydd hi'n brysur eto eleni wrth i bobol aros yn y DU.
Ddydd Sadwrn, mi fydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ym mhob un o wledydd Prydain i nodi daucanmlwyddiant gwasanaeth Gwylwyr y Glannau.
"Roedd hi'n brysur iawn yr haf diwethaf," meddai Tom Larkin, un o swyddogion Gwylwyr y Glannau yn y De Orllewin.
"Ry'n ni'n dishgwl iddi fod yr un mor brysur yr haf nesa' hefyd."
Torrwyd record y llynedd wrth i griwiau ymateb i'r nifer uchaf o alwadau erioed - mwy na'r 33,577 o alwadau a gafwyd yn 2020 - blwyddyn gyntaf cyfyngiadau Covid.
Mae Mr Larkin yn un o chwech o swyddogion cyflogedig yn yr ardal rhwng Cas-gwent yn y dwyrain a Gwbert yn y gorllewin.
Mae'n gyfrifol am hyfforddi a rheoli 19 o dimau sy'n cynnwys 228 o swyddogion gwirfoddol.
Mae'n dweud mai traethau Sir Benfro yw'r prysuraf, yn enwedig trefi glan môr fel Dinbych-y-pysgod.
"Y peth o'dd yn digwydd amlaf oedd galwadau i helpu padl-fyrddwyr oedd wedi mynd i drafferthion.
"Yn ystod y cyfnodau clo, fe ddechreuodd lot o bobl badl-fyrddio am y tro cyntaf, ac roedd llawer o bobl yn mynd allan heb wybod pethau fel amseroedd y llanw."
Yn ôl Mr Larkin, mae criwiau'n barod am dymor haf prysur arall wrth i bobol ddewis aros gartref i osgoi unrhyw ansicrwydd teithio Covid.
"Mae'r gwasanaeth a thimau ar draws y wlad yn paratoi ar gyfer hynny," meddai.
"Ond fy nghyngor i unrhyw un sy'n mynd i'r arfordir fyddai bod yn ddiogel, cynllunio ymlaen llaw, a rhoi gwybod i bobl ble rydych chi'n bwriadu bod pan fyddwch chi'n mynd allan ar y dŵr."
Drwy'r DU mae mwy na 3,500 o wirfoddolwyr yn cael eu harwain gan tua 100 o staff gweithredol cyflogedig Gwylwyr y Glannau, fel Mr Larkin,
Mae Nigel Richards, sy'n un o'r miloedd o wirfoddolwyr ac yn rheolwr gorsaf dân Porth Tywyn ger Llanelli, yn dweud nad ar y traethau yn unig mae'r trafferthion.
"Mae yna nifer o ddigwyddiadau yn codi dro ar ôl tro, pethach fel pobl yn cael eu dal ar y bancie tywod," meddai Nigel sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers 43 o flynyddoedd.
"Pan ma'r llanw wedi mynd mas ma' pobol yn crwydro yn yr aber fan hyn, ond ddim yn gweld pan ma hi'n llanw uchel a môr yn dod nôl mewn, a dyna pryd maen nhw angen help."
Dywed Mr Richards y bydd e a'i gydweithwyr yn barod ar gyfer mewnlifiad posib o ymwelwyr gyda chymorth hofrenyddion chwilio ac achub a gafodd eu defnyddio i achub bron i 2,000 o bobl yn 2020.
Mae un hofrennydd ym maes awyr Caernarfon a'r llall yn Sain Tathan.
"Ry'n ni wastod yn cynllunio ymlaen llaw ac eleni eto ry'n ni'n dishgwl haf prysur," meddai'r cyn-athro sydd wedi ymddeol.
"Ry'n ni bob amser yn barod ar gyfer pa bynnag ddigwyddiad, pa bynnag amser yw hi o'r dydd neu'r nos."
Bydd Mr Richards a'i gydweithwyr ar draws y DU yn cymryd rhan mewn seremoni arbennig ddydd Sadwrn am 11:00 i nodi daucanmlwyddiant y gwasanaeth.
Angen gwirfoddolwyr
Bydd rhaffau sy'n rhan o'r offer achub yn cael eu taflu mewn digwyddiadau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Sefydlwyd Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi ar Ionawr 15, 1822 pan gafodd gwasanaethau'r Cruisers Refeniw, Swyddogion Marchogaeth a'r Gwarchodlu Dŵr Ataliol eu huno i atal smyglo.
Dim ond ers chwe mis mae Tom Larkin wedi bod yn gweithio gyda'r gwasanaeth yn Ninbych-y-pysgod ar ôl gadael y Gwasanaeth Tân.
Mae Nigel Richards ar fin cwblhau 44 o flynyddoedd o wasanaeth.
"Fi'n credu bo hi'n bwysig bod criw ifanc, fel Tom, yn dod mewn i'r gwasanaeth," meddai Nigel.
"Fi bron ar ddiwedd fy nghyfnod ac ma' fe newydd gychwyn.
"Heb waed newydd, bydde'r gwasanaeth ddim yn dathlu'i daucanmlwyddiant heddi."
Mae'n cydnabod ei bod hi'n anoddach i gael pobl i wirfoddoli.
"Mae fe'n ask mawr achos ni ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae'r gwaith hyfforddi a chadw'n ffit yn anodd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020