Dyn wedi'i arestio wedi sylwadau hiliol am bêl-droedwyr

  • Cyhoeddwyd
Ben Cabango and Rabbi Matondo both started Wales' friendly win over Mexico last MarchFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ben Cabango a Rabbi Matondo chwarae i Gymru yn erbyn Mecsico fis Mawrth diwethaf

Mae plismyn oedd yn ymchwilio i gamdriniaeth hiliol yn erbyn y chwaraewyr rhyngwladol Ben Cabango a Rabbi Matondo wedi arestio dyn yn ei 20au.

Cafodd sylwadau hiliol am y ddau chwaraewr eu gwneud ar Instagram wedi i Gymru chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ym Mawrth 2021.

Cymru a enillodd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd o 1-0 wedi gôl gan Kieffer Moore.

Dywed Heddlu'r Metropolitan: "Fe gafodd un dyn yn ei 20au ei arestio ddydd Gwener, 31 Rhagfyr 2021 a'i ryddhau tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal."

Ychwanegodd llefarydd bod ymholiadau yn parhau.

Fe wnaeth Matondo, 21, ddefnyddio ei dudalen Twitter i dynnu sylw at y sylwadau ac roedd yn feirniadol o Instagram am beidio "gwneud dim" i wrthwynebu hiliaeth.

Dywedodd Facebook, sy'n berchen ar Instagram, yn hwyrach eu bod wedi cael gwared ar y cyfrifon a anfonodd y negeseuon i Matondo a Cabango.

Ar y pryd dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "ymchwilio i negeseuon hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol".

Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "ffieiddio at y fath sylwadau hiliol" a'u bod yn cydweithio â'r heddlu i sicrhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r math hwn o "ymddygiad cywilyddus".