Atal gêm bêl-droed Llanberis wedi honiadau hiliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae un o chwaraewyr ifanc Clwb Pêl-droed Llanberis yn honni iddo wynebu camdriniaeth hiliol yn ystod gêm ddydd Sadwrn - a bu'n rhaid i'r gêm ddod i ben yn gynnar wrth i'w gyd-chwaraewyr adael y cae.
Roedd Llanberis yn wynebu tîm Gallt Melyd o ardal Prestatyn a dywed Ifan Mansoor, asgellwr y tîm, bod y sylwadau hiliol wedi cael eu gwneud tua diwedd y gêm a ddechreuodd am 13:30 ar Ffordd Padarn.
"Mi 'nes i ddioddef camdriniaeth hiliol," meddai Ifan Mansoor, 21, wrth siarad â BBC Cymru.
"Roedden ni wedi chwarae 75 munud ac felly dim ond 10 i 15 munud oedd ar ôl."
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau.
'Cefnogi'n llawn'
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd CPD Llanberis bod y clwb "yn sefyll yn gadarn gyda'n chwaraewr ac yn ei gefnogi'n llawn".
Ychwanegon nhw bod y mater wedi ei gyfeirio at yr heddlu a'r awdurdodau pêl-droed.
Dywed Cadeirydd Clwb Pêl-droed Gallt Melyd, Steve Boyle: "Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y Gymdeithas Bêl-droed ac fe fyddwn yn cynnal ein hymchwiliad ein hunain hefyd.
"Ond o'n rhan ni, ni wnaeth swyddogion na chwaraewyr Llanberis wynebu camdriniaeth hiliol. 'Da ni'n cael cyfarfod arall ddydd Llun gyda'n chwaraewyr."
Dywed Mr Mansoor fod ei dîm, fwy na thebyg, wedi clywed yr hyn a gafodd ei ddweud a'i fod wedi ceisio adrodd am yr hyn ddigwyddodd wrth y dyfarnwr.
"Yna fe aeth y rheolwyr i fyny at y reff, fe 'nathon ni fel tîm gerdded i ffwrdd. Does 'na neb wedi bod yn hiliol tuag atai o'r blaen.
"'Dan ni wedi cwyno i'r Gymdeithas Bêl-droed ac mae plismyn yn dod yma ddydd Sul.
"Mae'n ofnadwy - ro'dd o'n sioc i ddechrau. Dwi wedi bod yn ypsét iawn am yr holl beth."
Mae Mr Mansoor wedi chwarae i Lanberis ers yn bump oed a phan yn 15 ymunodd â thîm y dynion.
'Cydweithredu'n llawn'
Mewn sylwadau ar eu tudalen Facebook dywed Clwb-Pêl droed Gallt Melyd "bod gêm ddydd Sadwrn wedi dod i ben wedi i sylw hiliol honedig gael ei wneud".
"Mae'r mater yn nwylo'r Gymdeithas Bêl-droed. Dydy Clwb Gallt Melyd ddim yn goddef unrhyw hiliaeth ac fe fyddwn yn cydweithredu'n llawn ag ymholiadau y Gymdeithas Bêl-droed."
Yn ddiweddarach dywedodd Cadeirydd Clwb Gallt Melyd "na wynebodd swyddogion na chwaraewyr Llanberis unrhyw gamdriniaeth hiliol".
Dywedodd yr heddlu bod ymchwiliad i'r honiadau wedi dechrau, gan annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Cymru ei bod yn disgwyl mwy o wybodaeth am y digwyddiad a'i bod wedi cael ei hysbysu amdano ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020