Arddangos crocodeil Ysgol Bodringallt yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae sgerbwd crocodeil gafodd ei ganfod dan lawr ystafell ddosbarth mewn ysgol yn Rhondda Cynon Taf bellach yn cael ei arddangos yn yr ysgol.
Adeiladwyr ddaeth o hyd i'r sgerbwd wrth wneud gwaith adnewyddu yn Ysgol Bodringallt.
"Roeddwn i wedi clywed y stori bod rhieni a staff wedi claddu crocodeil o dan yr ysgol rhywdro rhwng y ddau ryfel byd," meddai'r prifathro Dr Neil Pike ar y pryd.
"Ond roeddwn yn meddwl mai myth oedd y cyfan a 'nes i'm cymryd fawr o sylw - nes i fi weld y crocodeil ar lawr neuadd yr ysgol."
Y gred yw fod y sgerbwd yn 120 mlwydd oed, ac un posibilrwydd yw fod dyn lleol wedi dod â'r corff yn ôl adre' gydag e wedi iddo fod yn brwydro dramor yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Un stori yw bod y crocodeil yn cael ei arddangos ar un adeg ond ei fod yna wedi ei guddio o dan y llawr yn ystod gwrthdaro.
Dywed un cwmni cadwraeth bod y gweddillion yn deillio'n ôl i'r 19eg ganrif ond eu bod wedi cael cryn ddifrod am nad oeddynt wedi cael eu cadw'n iawn am gyfnod hir.
Er mwyn ei adfer fe gafodd y sgerbwd ei rewi i ddechrau er mwyn symud pryfed. Yn ogystal cafodd profion ar gyfer deunyddiau peryglus eu cynnal cyn iddo gael ei lanhau a'i drwsio. Daeth y gwaith i ben ym mis Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Joy Rosser: "Mae stori'r crocodeil yn Ysgol Bodringallt yn anghredadwy - dyna'r peth diwethaf roedd gweithwyr yn disgwyl ei weld o dan lawr yr ystafell ddosbarth.
"Rwy'n falch bod y gwaith o'i adfer bellach ar ben ac mae'r crocodeil enwog yn cael ei arddangos.
"Roedd hi'n wych gweld wynebau'r plant wrth iddynt ei weld am y tro cyntaf.
"Fe fydd, mae'n siŵr, yn rhywbeth y bydd yr ysgol yn ei drysori - a rhywbeth y bydd staff a disgyblion yn gallu ei fwynhau am genedlaethau i ddod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2019