Teyrnged i William Jones, 68, fu farw ar ôl ymosodiad ci

  • Cyhoeddwyd
ty
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tri chi eu cymryd o'r safle yn ardal Brynhyfryd wedi'r digwyddiad

Mae teulu dyn 68 oed a fu farw'r wythnos diwethaf ar ôl dioddef anafiadau a achoswyd gan gi wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Lanbedr Pont Steffan ar 10 Ionawr ar ôl derbyn galwad bod dyn wedi ei frathu.

Cafodd y cwest i farwolaeth John William Jones, oedd yn cael ei adnabod fel William, ei agor a'i ohirio ddydd Mercher diwethaf.

"Roedd William yn fab cariadus, yn frawd perffaith, yn frawd yng nghyfraith ac yn ewythr hoff iawn i'w neiaint a'i nithoedd," medd teyrnged gan ei frawd, Tomos Jones, a'i nith, Rhiannon Evans.

'Colled fawr'

Ychwanegodd: "Dros y blynyddoedd mae William wedi mynychu canolfan ddydd i oedolion yn Felinfach, gan symud yn ddiweddarach i Ganolfan Cymorth Cymunedol Canolfan Padarn, Aberystwyth.

"Roedd William yn gefnogwr brwd o Lerpwl, yn gefnogwr rygbi Cymru ac roedd ganddo lygad craff iawn am jig-sos.

"Bydd colled fawr ar ôl William gan ei deulu a llawer o ffrindiau oedd yn ei adnabod dros y blynyddoedd."

Cadarnhaodd yr heddlu fod tri chi, oedd ddim ar restr y cŵn sydd wedi'u gwahardd, wedi'u cymryd o'r safle yn ardal Brynhyfryd ar ôl cael cyffur i'w llonyddu.

Bu farw un o'r cŵn, oedd wedi ei lonyddu, o achosion naturiol tra yng ngofal milfeddyg, meddai'r heddlu.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd dynes ei harestio ar amheuaeth o fod â chi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth, ac fe gafodd ei rhyddhau dan ymchwiliad.